Term Saesneg a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig yw chav sy'n disgrifio stereoteip o bobl ymosodol o'r dosbarth gweithiol, gan amlaf yn eu harddegau, ag ymddygiad gwrthgymdeithasol megis yfed yn y stryd, camddefnyddio cyffuriau, ac ati.

Chav
Delwedd:Chav.jpg, Chav scally.jpg
Mathsocially marginalized group, yob Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1990s Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cartŵn o'r chav ystrydebol yn gwisgo gemwaith bling a het Burberry

Cofnodwyd y gair gyntaf ym 1998. Mae'n debyg ei fod yn tarddu o'r gair Polari chavy, sef plentyn, sy'n tarddu o'r gair Romani chavi. Mae rhai'n credu ei fod yn tarddu o enw Chatham neu o dafodiaith Gogledd Ddwyrain Lloegr (charver neu charva), neu'n acronym o'r geiriau Saesneg council house and violent. Mae'r ffurf fenywaidd chavette hefyd yn cael ei defnyddio.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 249.