Plentyn
Yn fiolegol, mae'r cyfnod o fod yn blentyn yn para rhwng yr enedigaeth a glasoed; lluosog plentyn ydyw "plant". Mae'r gair, hefyd, yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r berthynas rhwng mam a'i phlentyn (neu tad a'i blentyn). Caiff hefyd ei ddefnyddio i gynrychioli yr enw torfol "plant" e.e. "plentyn y Chwedegau" neu "blentyn siawns".
Enghraifft o'r canlynol | grŵp poblogaeth |
---|---|
Math | bod dynol, juvenile |
Olynwyd gan | Q116789753 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn gyffredinol, mae'r Cenhedloedd Unedig yn diffinio'r gair "plentyn" fel unrhyw berson sydd o dan 18 oed. Mae ganddynt lai o hawliau na'r oedolyn ac yn gyfreithiol rhaid iddynt fod yng ngofal oedolyn cyfrifol drwy'r amser. Gall y plentyn fod yn ferch neu'n fachgen.
Nid oedolyn mohono
golyguDatblygodd y syniad nad oedolyn bychan yw plentyn tua'r 16g. Gellir gweld hyn mewn lluniau. Yn yr Oesoedd Canol, gwisgid y plentyn mewn dillad oedolyn, maint llai, heb unrhyw nodweddion plentynnaidd. Erbyn yr 16g gwelir teganau ganddo, a dillad ychydig yn wahanol am y plentyn.
Mewn cywydd coffa i'w fab, fodd bynnag, canodd y bardd Lewis Glyn Cothi yn y 15g gerdd hyfryd iawn sy'n disgrifio rhai o deganau a gemau ei blentyn bach:
Bwa o flaen y ddraenen,
Cleddau digon brau o bren.
Ofni'r bib, ofni'r bwbach,
Ymbil â'i fam am bêl fach...
Oriel
golygu-
Merch tua 4 oed o tua 1875
-
Plentyn yn chwythu swigod sebon
Gweler hefyd
golygu- Baban dethol (Saesneg: Designer baby)
- Cyfradd geni (Saesneg: Birthrate)
- Genedigaeth
- Oed cydsyniad
- Plant Mewn Angen
- Rhestr llenorion plant Cymraeg
- Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
- Rhieni Dros Addysg Gymraeg
- Cylch chwarae
- Ysgol (addysg)