Cheilanthes sieberi
Cheilanthes sieberi | |
---|---|
Rock fern growing by the Lane Cove River, Australia | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Cheilanthes |
Rhywogaeth: | C. sieberi |
Enw deuenwol | |
Cheilanthes sieberi (Kunze) | |
Cyfystyron[1] | |
Rhedyn bach sy'n tyfu mewn sawl rhan o Awstralia, Aotearoa ac ynysoedd cyfagos yw Cheilanthes sieberi . Daw'r enw botanegol o'r Groegaidd kheilos am wefys ac anthos, sef blodyn sydd yn cyfeirio at yr indwsiwm. [2], a daw 'sieberi' i gofio am y naturiaethwr Almaenig F. Wilhelm Sieber (1789-1844) Mae enwau cyffredin Saesneg yn cynnwys poison rock fern a mulga fern. [3]
Gall y rhedyn hwn dyfu hyd at 25 cm o daldra. Mae'n blanhigyn eang, a welir mewn amrywiaeth o wahanol gynefinoedd: mae i'w gael mewn ardaloedd cras yn ogystal â safleoedd gyda dros 1500 mm o lawiad cyfartalog blynyddol. Mewn ardaloedd anial mae'n tyfu mewn rhigolau creigiog cysgodol. Fodd bynnag, ger yr arfordir, gall dyfu yn llygad yr haul mewn hollt o fewn creigiau, neu mewn priddoedd bas.
Ymborthiad gan anifeiliaid
golyguGall fwyta gormodedd o'r rhedyn hwn achosi problemau iechyd i ddefaid a gwartheg. [4] [5] [6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Hemionitis sieberi (Kunze) Christenh". Plants of the World Online. Royal Botanic Gardens, Kew. Cyrchwyd 2020-01-05.
- ↑ de Lang, P.J, de Lang, P.J (30 Gorffennaf 2024). "Cheilanthes sieberi subsp. sieberi". www.nzpcn.org.nz.
- ↑ "Cheilanthes sieberi". PlantNET - NSW Flora Online. Cyrchwyd 2010-07-11.
- ↑ "Sheep Health & Production". University of Sydney - Veterinary Science. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-09. Cyrchwyd 2010-07-11.
- ↑ "Mulga & Rock Ferns". North West Weeds. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-02-16.
- ↑ "Bracken Fern Poisoning". Merck Veterinary Manual.