Kherson

(Ailgyfeiriad o Cherson)

Dinas a phorthladd yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Kherson yw Kherson (Wcreineg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).). Saif ar lannau gorllewinol Afon Dnieper, rhyw 25 km o aber yr afon ar arfordir y Môr Du. Enwir y ddinas ar ôl Khersónēsos, gwladfa Roegaidd a sefydlwyd yn y Crimea yn y 6g CC.

Kherson
Trem ar borthladd Kherson o'r awyr.
Mathdinas yn Wcráin Edit this on Wikidata
Poblogaeth279,131 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1778 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIhor Kolykhaiev Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00, EET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Zalaegerszeg, Shumen, Mariupol, Zonguldak, Bizerte, İzmit, Vilnius Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolsouthern Ukraine Edit this on Wikidata
SirKherson urban hromada Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd68.7 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr25 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Dnieper Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.6425°N 32.625°E Edit this on Wikidata
Cod post73000 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIhor Kolykhaiev Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd caer yma ym 1778 wrth i Ymerodraeth Rwsia ehangu tua'r de-orllewin, a'r porthladd hwn oedd y ganolfan lyngesol a'r iard longau gyntaf a adeiladwyd gan y Rwsiaid yn y Môr Du. Dyrchafwyd yn brifddinas ranbarthol ym 1803, ac wrth i'r 19g fynd rhagddi tyfai'r ddinas ar sail cludo nwyddau ac adeiladu llongau. Ar y cyd â ffyniant y porthladd, datblygodd diwydiannau eraill gan gynnwys peirianneg, puro olew, a gweithgynhyrchu tecstilau.

Yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022, Kherson oedd y ddinas fawr gyntaf i ildio i luoedd Rwsia.[1] Ond ym mis Tachwedd 2022, gorchmynnodd Vladimir Putin y gwacáu sifiliaid o'r ardal ar ôl i'r Wcráin ymladd yn ôl.[2]

Gostyngodd y boblogaeth o 328,000 yn 2001 i 284,000 yn 2021.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Michael Schwirtz a Richard Pérez-Peña, "First Ukraine City Falls as Russia Strikes More Civilian Targets", The New York Times (2 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Mawrth 2022.
  2. Michael Drummond (6 Tachwedd 2022). "Ukraine war: Putin orders Kherson evacuation as Ukrainian forces close in on key city". Sky News (yn Saesneg).
  3. (Saesneg) Kherson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mawrth 2022.