Chetwode
Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, ydy Chetwode.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Buckingham. Saif tua 6 km (4 milltir) i'r gorllewin i Buckingham.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Buckingham |
Poblogaeth | 83 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Buckingham (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.96°N 1.066°W |
Cod SYG | E04001470 |
Cod OS | SP645295 |
Cod post | MK18 |
Mae'r elfen chet- yn yr enw yn dod o'r enw Brythoneg ar y pentref, sy'n gytras â Chymraeg Diweddar coed. Ychwanegwyd yr elfen wood o Hen Saesneg yn cyfleu'r un ystyr â'r enw gwreiddiol.[2] Mae'r enw cyfansawdd yn ymddangos yn Hen Saesneg fel Cetwuda. Erbyn Goresgyniad Normanaidd Lloegr, roedd manordy yn Chetwode, yn nwylo Esgob Odo o Bayeux a Robert de Thain oddi tano yn 1086 yn ôl Llyfr Dydd y Farn.[3] Sylfaenwyd priordy Awstinaidd yno yn 1244 gan Ralphe de Norwich. Datodwyd y priordy yn 1460 o achos ei dlodi, gan ddod yn rhan o Abaty Nutley yn Long Crendon gerllaw.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 173.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 14 Hydref 2022
- ↑ Ifor Williams, Enwau lleoedd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945), t. 6
- ↑ Chetwode yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
- ↑ City Population; adalwyd 14 Hydref 2022