Agor y brif ddewislen

Brythoneg

ieithoedd Celtaidd hynafol Prydain, hynafiaeth i'r Gymraeg, Cernyw, Llydaweg a Chymbric

Hen iaith P-Celteg a siaradwyd ym Mhrydain oedd Brythoneg (hefyd a elwir yn Brittonic, Hen Frythoneg neu Frythoneg Gyffredin). Hi oedd iaith a siaradwyd gan y bobl o'r enw'r Brythoniaid.

Brythoneg
Siaredir yn Prydain yn ystod yr Oes Haearn, de o Foryd Forth
Difodiant iaith Datblygodd i Hen Gymraeg, Cymbrieg, Cernyweg a Llydaweg erbyn 600 Cyfnod Cyffredin
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2 cel
ISO 639-3 Dim
Wylfa Ieithoedd

Math o Gelteg Ynysig ydyw Brythoneg, a darddodd gyda Phroto-Celteg, proto-iaith (h.y., tarddiad) damcaniaethol a ddechreuodd ddargyfeirio i mewn i dafodieithoedd neu ieithoedd gwahanol yn ystod hanner cyntaf y mileniwm cyntaf.[1][2][3][4] Erbyn y 6g o'r Cyfnod Cyffredin, rhannodd Brythoneg i mewn i bedair iaith wahanol: Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg, a Chymbrieg. Gelwir yr ieithoedd hyn yn ieithoedd Brythonaidd gyda'i gilydd. Mae tipyn o dystiolaeth i ddweud efallai roedd gan Bicteg gysylltiadau gyda Brythoneg a gallai efallai hefyd fod yn bumed gangen.[5][6][7]

Mae tystiolaeth o'r Gymraeg yn dangos dylanwad o'r Lladin ar Frythoneg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, yn enwedig mewn termau sy'n gysylltiedig â'r eglwys Gristnogol a Christnogaeth, sydd bron i gyd yn ddeilliadau Lladin.[8] Disodlwyd y Frythoneg yn yr Alban a'r de o Foryd Forth gan Aeleg yr Alban a'r Saesneg (a ddatblygodd fan hyn i mewn i Sgoteg), ond goroesodd hi hyd at y Canol Oesoedd yn Ne'r Alban a Cumbria — gweler Cymbrieg. Disodlodd y Frythoneg ar raddfa weddol gyson gan y Saesneg ledled Lloegr; yn y gogledd, diflannodd y Gymbrieg erbyn y 13eg canrif ac, yn y de, yr oedd Cernyweg yn iaith farw erbyn y 19eg canrif, ond bu ceisiadau i'w hadfywio.[9] Model hanesyddol O'Rahilly yn awgrymu efallai'r oedd iaith Frythonaidd yn Iwerddon cyn i'r ieithoedd Goidelig ymddangos, ond nid ydyw'r farn hon yn boblogaidd ymhlith ymchwilwyr eraill.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Henderson, Jon C. (2007). The Atlantic Iron Age: Settlement and Identity in the First Millennium BC (yn en). Routledge, tud. 292–95
  2. Sims-Williams, Patrick (2007). Studies on Celtic Languages before the Year 1000 (yn en). CMCS, tud. 1
  3. Koch, John (2006). Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (yn en). ABC-CLIO, tud. 1455
  4. Eska, Joseph (2008). "Continental Celtic", gol. Roger Woodard: The Ancient Languages of Europe (yn en). Caergrawnt
  5. Forsyth, Katherine (2006). gol. John Koch: Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (yn en). ABC-CLIO, tud. 1444, 1447
  6. Forsyth, Katherine, Language in Pictland : the case against "non-Indo-European Pictish" (Utrecht: de Keltische Draak, 1997), 27.
  7. Jackson, Kenneth (1955). "The Pictish Language", gol. F. T. Wainwright: The Problem of the Picts (yn en). Caeredin: Nelson, tud. 129–66
  8. Lewis, H. (1943). Yr Elfen Ladin yn yr Iaith Gymraeg (yn cy). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
  9. Cyngor Cernyw, 6 Rhagfyr 2010. UNESCO classes Cornish as a language in the ‘process of revitalization’. Adalwyd 28 Ebrill 2011.

LlyfryddiaethGolygu

  • Forsyth K; Language in Pictland (1997).
  • Jackson K; The Pictish Language in F T Wainright "The Problem of the Picts" (1955).
  • Koch J; New Thought on Albion, Ieni and the "Pretanic Isles" in Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 6, 1-28 (1986).
  • Lambert, Pierre-Yves (2003). La langue gauloise. 2ail argraffiad. Paris, Editions Errance. tud. 176
  • Price, G. (2000). Languages of Britain and Ireland, Blackwell. ISBN 0-631-21581-6
  • Rivet A a Smith C; The Place-Names of Roman Britain (1979).
  • Sims-Williams, Patrick (2003) The Celtic Inscriptions of Britain: phonology and chronology, c.400-1200. Rhydychen, Blackwell. ISBN 1-4051-0903-3
  • Trudgill, P. (ed.) (1984). Language in the British Isles, Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
  • W.B.Lockwood. Languages of the British Isles past and present, ISBN 0-521-28409-0
  • Nicholas Ostler, Empires of the Word
  • Atkinson a Gray, Are Accurate Dates an Intractable Problem for Historical Linguistics. Yn Mapping Our Ancestry, Eds Obrien, Shennan a Collard.
  • Filppula, M., Klemola, J. a Pitkänen, H. (2001). The Celtic roots of English, Studies in languages, Rhif 37, Prifysgol Joensuu, Cyfadran Ddyniaethau, ISBN 9-5245-8164-7.
  • K Jackson (1953), Language and History in Early Britain.
Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (P-Celteg)Goideleg - (Q-Celteg)
Llydaweg ·Cernyweg ·Cymraeg |Gwyddeleg ·Manaweg ·Gaeleg yr Alban
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd

Nodyn:Ynysoedd Prydain