Agor y brif ddewislen

Ynys yn perthyn i Wlad Groeg yw Chios (Groeg: Χίος). Un o'r Ynysoedd Gogledd Aegeaidd, saif yn rhan ogleddol Môr Aegaea, i'r de o ynys Chios, i'r gogledd o Patmos a'r Dodecanese, ac oddi ar arfordir gorllewinol Twrci.

Chios
Chios NASA satellite image.jpg
Math Ynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth 51,930 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Bassano Romano Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Chios Municipality Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Arwynebedd 842.5 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 1,297 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr Aegeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 38.4°N 26.02°E Edit this on Wikidata
Cod post 82x xx Edit this on Wikidata

Mae gan yr ynys arwynebedd o 842 km2; 50 km o hyd a 29 km o led, y bumed o ynysoedd Groeg o ran maint. Fe'i gwahenir oddi wrth arfordir Twrci gan gulfor tua milltir o led. Ynys fynyddig ydyw, gyda'r copa uchaf, Pelineon, yn 1,297 medr o uchder. Mae'n enwog am gynhyrchu gwm mastig, ac mae ei llongau masnach yn bwysig. Poblogaeth yr ynys yn 2001 oedd 51,936, a'r brifddinas yw dinas Chios.

Enwyd mynachlog Nea Moni, sy'n dyddio o'r 11g, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Pobl enwog o SamosGolygu

Dywed rhai fod Christopher Columbus wedi ei eni ar yr ynys.