Genws sydd yn rhan o'r ffylwm Chlorophyta o algâu gwyrdd yw Chlamydomonas.

Chlamydomonas
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsongenws Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonChlamydomonadaceae Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Chlamydomonas yn ungellog ac yn fudol (gyda dau fflagelwm) ac mae'n byw mewn dŵr croyw. Mae i'w gloroplast stigma goleusensitif coch a ddefnyddir er mwyn cyfeiriadu. Fe'i defnyddir fel model mewn ymchwil ar gelloedd a moleciwlau mewn genynnau sy'n rheoli ffotosynthesis.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.