Dŵr

yr hylif mwya cyffredin ar y ddaear
(Ailgyfeiriad o Dŵr croyw)

Yr hylif mwya cyffredin ar y ddaear yw dŵr, gyda thua 70% o arwyneb y ddaear wedi ei gorchuddio gan yr hylif ar ffurf cefnforoedd, moroedd, afonydd, llynnoedd a'r pegynnau iâ.

Dŵr

Ocsigen a hydrogen yw'r cyfansoddyn hwn, gyda'r fformiwla gemegol: H2O. Dŵr wedi'i rewi yw ; ager yw anwedd dŵr.

Mae'r corff dynol yn cynnwys rhywle rhwng 55% a 78% o ddŵr, yn dibynnu ar faint y corff hwnnw.[1] Pan mae'r corff dynol yn derbyn dŵr drwy'r ceg fe â'i i’r stumog cyn mynd i mewn i’r gwaed ac oddi yno i’r celloedd cyn diweddu yn yr arenau fel troeth. Er mwyn gweithio'n iawn, mae'r corff angen rhwng un a saith litr o ddŵr pob dydd gyda'r union faint yn dibynnu ar sawl ffactor: pa mor weithgar yw'r corff, tymheredd y corff, lleithder yr amgylchedd o'i gwmpas ayb. Drwy fwyta ac yfed mae'r corff yn derbyn y dŵr hwn. Mae'r farn gyffredinol yn mynnu fod rhwng 6 - 7 gwydriad o ddŵr yn lleiafswm y dylid ei yfed.[2]

Priodweddau cemegol golygu

Berwbwynt dŵr golygu

Beth ydy berwbwynt dŵr? Yn anffodus - fel cymaint o ffeithiau gwyddonol mae’r ateb yn dibynnu ar eich safbwynt. Oherwydd gwasgedd isel yr awyr ar ben Mynydd Everest mae dŵr yn berwi ar ddim ond 70 gradd canradd. Dim gobaith am baned rhesymol o de yno, felly. Cyfeiria’r 100 gradd at wasgedd safonol awyr ar lefel y môr. Yn “Hafan Eryri”, caffi newydd yr Wyddfa, bydd tegell yn berwi ar tua 97 gradd. Ond beth os plymiwch i ddyfnderoedd y môr? Yno mae’r gwasgedd yn cynyddu’n sylweddol - tuag un atmosffer ar gyfer pob 10 metr. Mi fyddai paned wedi’i baratoi (a’i yfed) ar waelod pwll nofio Bangor yn mesur dros 110 gradd braf ! Dros y tair blynedd diwethaf mae tîm o Brifysgol Bremen wedi bod yn mesur tymheredd dŵr yn codi o simneiau folcanig 3 cilomedr o dan wyneb yr Iwerydd.[3] Yno daethant o hyd i’r dŵr poethaf a fesurwyd erioed - 464 gradd canradd. Ond ar wasgedd o 300 atmosffer mae pethau rhyfedd yn digwydd i ddŵr. Nid yw’n berwi, fel y cyfryw, ond yn gweddnewid yn ddi-dor o hylif i anwedd - nid oes “swigod”. Gelwir hwn yn hylif uwch-gritigol. Dyma’r tro cyntaf i’w gweld ar y ddaear y tu allan i’r labordy. Bydd dŵr uwch-gritigol yn ymdoddi mineralau a metalau - megis aur a haearn - o’r creigiau yn effeithiol iawn, a thybir mai dyma darddiad llawer o halwynau’r môr. Wedi dod o hyd i, ac astudio’r, simneiau hyn bydd modd dysgu llawer am y prosesau sy’n creu’r moroedd a chynnal y bywyd sydd ynddynt.

Dŵr ymhell o'r Ddaear golygu

Ym Medi 2015 cyhoeddodd NASA fod un o'u cerbydau gofod, Curiosity, wedi darganfod olion dŵr ar ochrau un o geudyllau Mawrth, sef Gale. Ceir cafnau ar ochr y ceudwll (sy'n 154 km (96 mill) mewn diameter sy'n debyg i greithiau a adewir pan fo dŵr wedi llifo.[4][5] eisoes yn Rhagfyr 2012, roedd gwyddonwyr wedi cyhoeddi fod dadansoddiad o bridd y blaned a analeiddiwyd gan Curiosity wedi awgrymu'r posibilrwydd y bu yno ddŵr ar un cyfnod, gan y canfuwyd yno foleciwlau dŵr, swlffwr, clorin a chyfansoddion organig. Mae dŵr yn hanfodol i fywyd, ac yn un o'r pethau pwysicaf mae gwyddonwyr y gofod yn chwilio amdano.

Y pedwar lle mwyaf tebygol o fod a dŵr arnynyt yw'r blaned Mawrth, Titan (un o leuadau Sadwrn), Ewropa (un o leuadau Iau) ac Enceladus (lleuad arall Sadwrn). Yn y tabl canlynol, edrychir ar y tebygolrwydd; nodir hefyd, er mwy eu cymharu - y Ddaear a'n lleuad:

Testun y pennawd Planed Daear Y Lleuad Y blaned Mawrth Titan

(lleuad Sadwrn)

Ewropa

(lleuad Iau)

! Enceladus

(lleuad Sadwrn)

 
 
 
 
 
 
Pellter o'r Ddaear
(mewn cilometrau)
356,400 54 miliwn 1.2 biliwn 628 miliwn 1.2 biliwn
Diametr
(mewn milltiroedd)
7,918 2,159 4,212 1,950 3,200 313
Posibilrwydd Dim Posibilrwydd cryf iawn fod dŵr

o dan wyneb y blaned

Posibilrwydd cryf fod dŵr o dan wyneb y blaned Posibilrwydd cryf iawn Posibilrwydd cryf
Ymweliadau Na Yn 2015 roedd 5 lloeren yn ei amgylchynu a dau robot yn

crwydro'i wyneb
*2018 ExoMars (Ewrop)

TiME (NASA) *US Europa (NASA)
*European Juice (Ewrop)
*2030 Life Finder

Defnydd golygu

Dŵr môr golygu

Cofnod o'r hen sir Gaernarfon gan Thomas Rowlands, Mur Cyplau, Pencaenewydd.[6] Roedd Thomas Rowlands wedi ei eni a'i fagu yn ardal y Rhiw. Fe'i ganed ym 1905, ac fe'i recordiwyd ym 1977. Yn ôl Thomas Rowlands, roedd ceffylau a oedd i mewn dros y gaeaf yn magu gwres yn eu traed. Yng nghartref ei fam, byddid yn mynd â hwy i gerdded yn heli'r môr bob wythnos i olchi eu traed, a byddai hyn yn eu cadw rhag magu gwres yn eu traed.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Re: What percentage of the human body is composed of water? Jeffrey Utz, M.D., The MadSci Network
  2. (Saesneg) Healthy Water Living gan y BBC; 2007-02-01
  3. (Saesneg) Koschinsky A. et al. Geology (DOI: 10.1130/G24726A.1)
  4. Brown, Dwayne; Cole, Steve; Webster, Guy; Agle, D.C. (27 Medi 2012). "NASA Rover Finds Old Streambed On Martian Surface". NASA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-13. Cyrchwyd 28 Medi 2012.
  5. NASA (27 Medi 2012). "NASA's Curiosity Rover Finds Old Streambed on Mars - video (51:40)". NASAtelevision. Cyrchwyd 28 Medi 2012.
  6. tâp AWC 5224, Casgliad lleisiol Amgueddfa Werin Cymru
Chwiliwch am dŵr
yn Wiciadur.