Christophe Riblon

Seiclwr proffesiynol Ffrengig ydy Christophe Riblon (ganed 17 Ionawr 1981). Ganwyd yn Tremblay-en-France. Mae'n reidio dros dîm Ag2r-La Mondiale.

Christophe Riblon
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnChristophe Riblon
Dyddiad geni (1981-01-17) 17 Ionawr 1981 (43 oed)
Taldra1.80m
Pwysau65kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd a trac
RôlReidiwr
Tîm(au) Proffesiynol
2005–
Golygwyd ddiwethaf ar
11 Gorffennaf 2009

Enillodd y fedal aur yn y Madison yng Nghwpan y Byd 2007 ar y Trac yn Beijing gyda Jérôme Neuville. Cystadlodd dros Ffrainc yng Ngemau Olympaidd 2008 a daeth yn ail yn y ras bwyntiau ym Mhencampwriaethau Trac y Byd 2008. Enillodd y Gwobr Brwydrol yng nghymal 7 Tour de France 2009, a gorffennodd yn chweched yn yr un cymal.

Canlyniadau golygu

2004
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Ffrainc (Amatur)
2006
1af Cymal o'r Circuit de Lorraine
2007
1af Tour de la Somme
1af Madison, Cwpan y Byd - gyda Jérôme Neuville
2008
2il Ras Bwytiau, Pencampwriaethau Trac y Byd
2009
1af Cymal 3, Route du Sud

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu