Christopher Bassett
Roedd Christopher Bassett (27 Chwefror 1752 - 8 Chwefror 1784) yn offeiriad Anglicanaidd oedd yn weithgar gyda chychwyniad Methodistiaeth yng Nghymru.[1]
Christopher Bassett | |
---|---|
Ganwyd | 27 Chwefror 1752 Aberddawan |
Bu farw | 8 Chwefror 1784 Bryste |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cefndir
golyguGanwyd Basset yn Aberddawan, ym mhlwyf Pen-marc, sir Forgannwg, yn ail fab i Christopher Bassett ac Alice ei wraig. Roedd ei deulu yn un weddol barchus a bonheddig, yn hanu o deulu Normanaidd a oedd wedi priodi a theuluoedd uchelwyr Cymreig Morgannwg.[2] Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Pen-Marc ar 27 Chwefror, 1752.[3] Roedd ei rieni yn Fethodistiaid, ac yn aelodau o seiat Aberddawan, wedi dod dan ddylanwad weinidogaeth.[4]
Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg y Bont-faen. Tra yn yr ysgol daeth dan ddylanwad yr offeiriad Methodistaidd David Jones, Llan-gan.[5]
Wedi ymadael a'r ysgol cafodd cynnig rhan o ystâd ei dad i'w drin ar gyfer ei fywoliaeth. Gwrthododd y cynnig, gan fod ei bryd ar fynd i offeiriadaeth yr Eglwys. I baratoi at ei weinidogaeth aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen. Graddiodd BA ym 1772 a MA ym 1775.
Gyrfa
golyguWedi graddio o'r brifysgol cafodd ei ordeinio'n offeiriad gan Esgob Llundain. Fe'i penodwyd yn giwrad i'r Offeiriad efengylaidd enwog William Romaine yn St. Ann's, Blackfriars, Llundain. Yn ogystal â'i weinidogaeth yn Blackfriars cafodd ei ethol yn ddarlithydd rheolaidd yn Eglwys St. Ethelburga, Llundain lle fu yn darlithio ar bynciau efengylaidd.[6]
Torrodd iechyd Basssett a dychwelodd i Gymru tua 1778, er mwyn ceisio adferiad. Cafodd ei benodi yn giwrad Sain Ffagan. Roedd gan y Methodistiaid seiat yn Sain Ffagan oedd wedi dechrau gwanychu. Ymgymerodd ef ofalaeth am y seiat, gan lwyddo i adfywhau'r achos. Bu'n mynd ar deithiau pregethu ac i gynghori mewn seiadau eraill y cylch. Ni fu yn hir yn Sain Ffagan, mae'n debyg ei fod wedi ymadael o'i wirfodd. Ceisiodd ei dad i ddefnyddio ei ddylanwad fel tirfeddiannwr a'i gysylltiadau â phobl fonheddig eraill yr ardal i gael bywoliaeth eglwys iddo, ond methiant bu pob ymgais. Parhaodd er hynny i weithio i achos y Methodistiaid gan deithio trwy Grymu i bregethu. Tua 1781 cafodd ei benodi yn giwrad eto ym Mhorthceri, ger gartref ei dad.[4]
Marwolaeth
golyguYn ystod haf 1793, aeth Bassett i'r Crai yn Sir Frycheiniog, i bregethu. Yng nghanol yr oedfa teimlodd ei nerth yn darfod a phoen enbyd o gwmpas ei ysgyfaint, fel y bu raid iddo roi'r gorau i'r oedfa. Parhaodd ei iechyd i ddirywio. Awgrymodd meddyg iddo ymweld â ffynhonnau Caerfaddon i geisio gwellhad. Roedd ganddo chwaer yn byw ym Mryste, oherwydd bod Bryste yn agos i Gaerfaddon aeth i aros efo hi. Bu farw o'r diciâu yn nhŷ ei chwaer yn 31 oed. Claddwyd ei weddillion yn eglwys Sain Tathan, ger ei gartref teuluol ar 15 Chwefror 1784.[7]
Canwyd marwnadau iddo gan William Williams, Pantycelyn a John Williams,[4] Sain Tathan. Ysgrifennwyd cofiant byr iddo ar ffurf Llythyr oddi wrth Dafydd ab Ioan y Pererin at Ioan ab Gwilim y Prydydd. Dafydd ab Ioan oedd David Jones Llan-gan ac Ioan ab Gwilym oedd John Williams, Sain Tathan.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Roberts, G. M., (1953). BASSETT, CHRISTOPHER (1753 - 1784), offeiriad Methodistaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 16 Medi 2022
- ↑ Brown, Roger L (1989). "Christopher Bassett and the Living of Cardiff". Morgannwg transactions of the Glamorgan Local History Society 33: 38-54. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1169834/1173523/38#?xywh=-1726%2C-179%2C5697%2C3757.
- ↑ Gwasanaethau Archifau Cymru; Bedyddiadau Sir Forganwg; Eglwys Penmarc 1752 tud 3 -Christopher 2nd son of Chris Bassett by Alice his wife was born 27 Feb 1752
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Jones, John Morgan (1895). "Penod XXVIII, Christopher Basset, Thomas Gray, Ac Edward Coslet". Y Tadau Methodistaidd Cyf II. Abertawe: L Evans, Abertawe. tt. 163–167.
- ↑ "Hanes Yr Eglwys Yng Nghymru O Deyrnasiad Elisabeth Hyd Orseddiad Victoria". Yr Haul Neu, Drysorfa O Wybodaeth Hanesiol A Gwladwriaethol (Caerfyrddin: William Spurrell) 20: 174. Mehefin 1876. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2785689/2791116/17#?xywh=-1583%2C341%2C5289%2C3489. Adalwyd 17 Medi 2022.
- ↑ 6.0 6.1 Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I—Bassett, Cristopher ar Wicidestun
- ↑ Cofrestr Bedyddiadau, Priodasau a Chladdedigaethau Plwyf Sain Tathan "Duty of 13s for Burial, February 15 1784 Rev Christopher Bassett of Penmarch". Gwasanaeth Archifau Morgannwg. 15 Chwefror 1784.