Peilot prawf Americanaidd a swyddog yn Awyrlu'r Unol Daleithiau iedd Charles Elwood "Chuck" Yeager (13 Chwefror 19237 Rhagfyr 2020) sydd yn nodedig fel y dyn cyntaf i dorri'r gwahanfur sain wrth hedfan.

Chuck Yeager
Y Brigadydd Chuck Yeager yn ei wisg filwrol (1969).
GanwydCharles Elwood Yeager Edit this on Wikidata
13 Chwefror 1923 Edit this on Wikidata
Myra Edit this on Wikidata
Bu farw7 Rhagfyr 2020 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • U.S. Air Force Test Pilot School Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, hedfanwr, peilot prawf, awyrennwr, peilot awyren ymladd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
Gwobr/auY Groes am Hedfan Neilltuol, Medal y Seren Efydd, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Calon Borffor, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aer, Silver Star, Air Force Distinguished Service Medal, Gwobr Harmon, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Neuadd Enwogion California, Gwobr Horatio Alger, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Medal Ymgyrch Ewropeaidd-Affricanaidd-Dwyrain Canol, Congressional Silver Medal, International Air & Space Hall of Fame, International Space Hall of Fame, Aerospace Walk of Honor, Commendation Medal, Medal Ymgyrch America, Medal Byddin y Galwedigaeth, Medal y Gwasanaeth Amddiffyn Cenedlaethol, Armed Forces Expeditionary Medal, Vietnam Service Medal, Air and Space Longevity Service Award, Marksmanship Ribbon, Vietnam Campaign Medal, Mackay Trophy, Collier Trophy Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.chuckyeager.com Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ym Myra, Gorllewin Virginia. Ymunodd â Byddin yr Unol Daleithiau ym Medi 1941 a chafodd ei anfon i Gorfflu Awyr y Fyddin. Derbyniodd gomisiwn yn swyddog hedfan wrth gefn ym 1943 ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n beilot awyrennau ymladd i'r Wythfed Awyrlu, wedi ei leoli yn Lloegr. Hedfanodd 64 o weithiau i'r cyfandir, a llwyddodd i saethu i lawr 13 o awyrennau'r Almaenwyr. Cafodd Yeager ei hun ei saethu i lawr yn Ffrainc, a dihangodd o'r gelyn gyda chymorth y résistance. Wedi'r rhyfel, bu'n hyfforddwr hedfan ac yna yn beilot prawf. Yn sgil sefydlu Awyrlu'r Unol Daleithiau ar wahân i'r fyddin, ym 1947, derbyniodd Yeager gomisiwn parhaol, yn gapten.

Dewiswyd Yeager fel gwirfoddolwr i brofi'r awyren arbrofol gyfrinachol X-1 a adeiladwyd gan gwmni Bell Aircraft i ymchwilio i effeithiau hedfan sonig ar y peilot a'r awyren. Ar 14 Hydref 1947, yn yr X-1, Yeager oedd y dyn cyntaf i dorri'r gwahanfur sain, rhyw 1,066 km yr awr ar uchder o 12 km, uwchben Rogers Dry Lake, pant heli ger Canolfan Awyr Edwards yn Anialwch Mojave, de Califfornia. Ni chafodd y gamp ei datgelu i'r cyhoedd nes Mehefin 1948. Ar 12 Rhagfyr 1953, fe dorrodd record fuanedd arall gan gyrraedd 2,660 km yr awr mewn awyren roced X-1A.[1]

Ym 1954, trosglwyddwyd Yeager o'i swydd yn is-bennaeth hedfan prawf yng Nghanolfan Awyr Edwards i staff y Deuddegfed Awyrlu yng Ngorllewin yr Almaen. Dychwelodd i Edwards ym 1962 fel pennaeth ar yr Ysgol Beilot ac Ymchwil Awyrofod, a chafodd ei ddyrchafu yn gyrnol. Ym 1968 fe'i penodwyd yn bennaeth ar y 4edd Asgell Ymladd Tactegol, â'i chanolfan yng Ngogledd Carolina. Dyrchafwyd Yeager yn frigadydd ym 1969, ac ymddeolodd o'r awyrlu ym 1975. Cafodd ei bortreadu gan Sam Shepard yn y ffilm The Right Stuff (1983). Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Yeager, ym 1985. Bu farw yn Los Angeles, Califfornia, yn 97 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Chuck Yeager. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mehefin 2021.
  2. (Saesneg) Richard Goldstein, "Chuck Yeager, Test Pilot Who Broke the Sound Barrier, Is Dead at 97", The New York Times (7 Rhagfyr 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 3 Mehefin 2021.