Chwarel Abercorris
Chwarel lechi ger Corris Uchaf yng Ngwynedd oedd Chwarel Abercorris (neu Chwarel Cwmodyn).
Adfeilion yr hen chwarel | |
Math | chwarel |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Corris |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6632°N 3.8453°W |
Cod OS | SH752088 |
Cymerodd Thomas Green o Lundain lês ar y tir yn 1863 a dechrau cloddio, er mae'n debyg fod cloddio ar raddfa fechan yma cyn y dyddiad hwnnw. Yn 1874 ffurfiwyd y Cwmodyn Slate & Slab Quarry Company, ond gwerthwyd y cwmni trwy ocsiwn yn 1878. Fe'i prynwyd gan J.W. Orchard, oedd wedi ail-ddechrau'r gwaith yma erbyn 1880, ond caeodd eto yn 1888.
Ail-agorwyd Abercorris yn 1889, gyda 40 o weithwyr. Yn 1893 cymerwyd y cwmni trosodd gan W. John Lewis ac Arthur T. Carr, ac erbyn troad y ganrif roedd yn cynhychu tua 1,000 o denelli o lechi y flwyddyn, gyda 40 o weithwyr. Aeth y gwaith ymlaen hyd 1914, pan gaewyd y chwarel. Ail-agorodd eto yn 1920 dan berchenogaeth T.O. Williams a C. Humphries, ond caewyd y chwarel unwaith eto yn 1928. Bu gweithio yma ar raddfa fechan yng nghanol y 1930au, a bu perchnogion Chwarel Braich Goch yn ei gweithio, eto ar raddfa fechan, yn gynnar yn y 1950au.
Roedd y chwarel yn cael ei gwasanaethu gan Reilffordd Corris.
Llyfryddiaeth
golygu- Alun John Richards, Slate Quarrying at Corris (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)