Chwarel Moelfaban
Chwarel lechi ger Bethesda yng Ngwynedd oedd Chwarel Moelfaban, hefyd Chwarel Moel Faban neu Chwarel y Foel. Saif ar lethrau gorllewinol Moel Faban, gerllaw pentref Rachub (Cyf. OS SH626679).
![]() | |
Math | chwarel ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.19028°N 4.05414°W ![]() |
![]() | |
Agorodd y chwarel tua chanol y 19g. Fel Chwarel Pantdreiniog a Chwarel Tan-y-bwlch, gweithiwyd y chwarel yn gydweithredol yn ystod yr anghydfod diwydiannol yn Chwarel y Penrhyn yn 1900-1903. Ni fu erioed yn chwarel fawr; a chaeodd tua 1910.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e4/Old_incline_and_tramway_formations_behind_Tyn-y-mynydd_-_geograph.org.uk_-_431366.jpg/250px-Old_incline_and_tramway_formations_behind_Tyn-y-mynydd_-_geograph.org.uk_-_431366.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8f/Tramway_formation_and_slate_waste_tip_at_Moel_Faban_Quarry_-_geograph.org.uk_-_431383.jpg/250px-Tramway_formation_and_slate_waste_tip_at_Moel_Faban_Quarry_-_geograph.org.uk_-_431383.jpg)
Llyfryddiaeth
golygu- Alun John Richards, A Gazetteer of the Welsh Slate Industry (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)