Moel Faban

bryn (408.7m) yng Ngwynedd

Bryn sy'n rhan o'r Carneddau yn Eryri yw Moel Faban. Saif ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Bethesda, Gwynedd, gerllaw Rachub a Llanllechid, ac mae'n 408 medr o uchder.

Moel Faban
Moel Faban gydag Afon Menai yn y cefndir
Mathbryn, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr408.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.19137°N 4.04576°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6342167987 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd46 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCarnedd Llywelyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Carneddau Edit this on Wikidata
Map

Hynafiaethau golygu

Ceir nifer o garneddi ger y copa, ac olion tai o Oes yr Efydd ac Oes yr Haearn ar ei lechweddau dwyreiniol, yn cynnwys carneddau crynion Moel Faban.

Chwareli golygu

Ceir olion nifer o chwareli llechi gerllaw hefyd, yn cynnwys Chwarel Moelfaban ar ochr orllewinol y mynydd.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato