Chwarel y Berwyn
chwarel lechi rhwng Rhuthun a Llangollen, ger Bwlch yr Oernant
Chwarel lechi ger Llangollen yw Chwarel y Berwyn, hefyd Chwarel y Clogau. Saif ar lethrau Mynydd Llantysilio, uwchben Bwlch yr Oernant, Sir Ddinbych.
Credir i'r chwarel gael ei chychwyn yn y 1770au, ac mae'n un o'r ychydig chwareli llechi yng Nghymru sy'n parhau i gael eu gweithio.