Bwlch mynydd hir yn Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Bwlch yr Oernant (Saesneg: The Horseshoe Pass). Gorwedda rhwng Mynydd Llandysilio i'r gorllewin a bryn Cyrn-y-Brain i'r dwyrain. Mae'r ffordd A542 rhwng Llandegla a Llangollen yn croesi'r bwlch, gan gyrraedd uchder o 417 medr.

Bwlch yr Oernant
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr417 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0135°N 3.2162°W Edit this on Wikidata
Map
Pen Bwlch yr Oernant; y ffordd i Langollen
Pen Bwlch yr Oernant

Daw'r enw Saesneg poblogaidd, sy'n bur ddiweddar, o'r ffaith fod y ffordd yn ymdroellu ar ffurf pedol wrth ddringo i'r bwlch. Mae'r ffordd bresennol yn dyddio i 1811 pan adeiladwyd ffordd dyrpeg dros y bwlch. Mae'r ffordd ar gau weithiau yn y gaeaf oherwydd eira (mae'n agored iawn) a thirlithriadau.

Dechreuwyd cloddio am lechi yn y bryniau ger y bwlch yn yr 17g a daeth yn ddiwydiant pwysig yn y 19g. Caeodd y chwareli yn yr 20g ac mae rhai o'r pyllau wedi eu llenwi â dŵr erbyn hyn. Ceir sawl math o adar yn nithio ar y clogwynni yn yr hen chwareli, yn cynnwys brain coesgoch.

Agorwyd caffi fymryn i'r gogledd o ben y bwlch ddechrau'r 1930au. Y pryd hynny bu rhaid defnyddio asynnau i'w gyflenwi. Mae'r adeilad presennol, y Ponderosa Cafe, yn boblogaidd gan ymwelwyr a theithwyr oherwydd ei sefyllfa. I'r de o'r bwlch, ar y ffordd i lawr i gyfeiriad Llangollen, ceir Tafarn y Brittania: dywedir mai mynaich o Abaty Glyn y Groes gerllaw a gododd y dafarn wreiddiol yn ôl yn y 14g.