Chwe Chyfres ar gyfer Sielo Digyfeiliant

Fe ystyrir y Chwe Chyfres ar gyfer Sielo Digyfeiliant gan J. S. Bach (BWV 1007-1012) fel rhai o'r gwaith pwysicaf ar gyfer y sielo unigol. Mae fwy na thebyg y cawsant eu cyfansoddi rhwng 1717 a 1723 pan roedd Bach yn gwasanaethu fel kapellmeister yng Nghöthen.

Chwe Chyfres ar gyfer Sielo Digyfeiliant
Enghraifft o'r canlynolgroup of musical works Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJohann Sebastian Bach Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tudalen gyntaf o gyfres #1 i G fwyaf, BWV 1007

Ysgrifennwyd y cyfresi mewn chwe symudiad, yn y drefn ganlynol:

  1. Preliwd
  2. Allemande
  3. Courante
  4. Sarabande
  5. Galanteries - miniwétau ar gyfer cyfresi 1 a 2, bwrê ar gyfer 3 a 4, a gafótau ar gyfer 5 a 6
  6. Gîgue

Offerynnau

golygu

Ysgrifennwyd cyfresi ar gyfer y fath fwyaf cyffredin o sielo yn y cyfnod, wedi'i tiwnio i'r un nodau â sielo gyfoes. Mae angen ail-diwnio'r llinyn A i G yn lle ar gyfer y 5ed (BWV 1011). Yn ôl pob tebyg, bwriadodd Bach i'r 6ed (BWV1012) gael ei chwarae ar offeryn gyda 5 llinyn (y llinyn uchaf yn E uchel), y violoncello piccolo, neu o bosib y viola pomposa.

Ysgrifennodd Bach fersiwn amgen o'r 5ed ar gyfer Liwt. Mae cerddorion cyfoes wedi creu fersiynau ar gyfer amryw offerynnau gan gynnwys fiolin, fiola, bas dwbl, viola da gamba, mandolin, piano, marimba, gitâr, recorder, corn, sacsoffôn, clarinét bas, basŵn, utgorn, trombôn, ewffoniwm a thiwba.

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.