Ffidil
Offeryn cerdd gyda phedwar tant ydy’r ffidil neu feiolín, sy'n cael ei chanu (fel arfer) gyda bwa. Mae hi'n cael ei chwarae ledled y byd mewn pob math o gerddoriaeth. Mae tannau'r ffidil yn cael eu tiwnio at G, D, A, E (o'r gwaelod), yn dechrau ar G o dan C ganol. Y ffidil ydy aelod lleiaf ac uchaf o’r teulu llinynnau, sydd hefyd yn cynnwys y fiola, y sielo a'r bas dwbl.
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | bowed string instrument |
Rhan o | violin family |
Cysylltir gyda | violin bow |
Yn cynnwys | scroll, fretboard, pegbox, bridge, fine tuner, tailpiece, chinrest, neck, f-hole, sound board, sound box |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y ffidil yw’r pwysicaf o’r offerynnau llinynnol, a’r offeryn sy’n arwain y gerddorfa glasurol. Mae’r gwneuthuriad yn cynnwys corff gwag hirgul atseiniol a gwddf sy’n ymestyn at y pen mewn ffurf sgrôl. Yno mae pedwar peg tiwnio, dau bob ochr, i dynhau’r tannau sy’ wedi’u gosod mewn cynffon sy’n glwm i waelod y corff. Mae crib (bysfwrdd) o eboni yn ymestyn ar hyd y gwddf, o’r bocs pegiau hyd at ganol y corff lle mae’r siâp yn culhau. Mae tyllau siâp f wedi’u torri mewn i’r corff yn y lleoliad yma, ac mae’r union safle ac osgo’r tyllau’n bwysig at greu’r sain gorau o’r offeryn. Mae pont o bren masarn yn trosglwyddo dirgryniadau o’r tannau at y corff ac mae postyn sain tu mewn i’r offeryn yn cymryd sain o’r tannau uchaf at y cefn. Cynhelir sain ddyfnach mewn darn o bren wedi’i ludio at ochr mewnol y bol (neu’r plât uchaf). Gwneir y bol o bren sbriws, a defnyddir pren masarn i ffurfio’r ochrau a chefn yr offeryn. I gael y sain gorau mae gan arbenigwyr ddulliau o osod y bont a’r postyn sain yn union yn ôl mesuriadau unigryw at bob offeryn. Mae naddiad o drwch blewyn yn ddigon i wneud gwahaniaeth wrth gymhwyso’r mesuriadau bychain yng ngwneuthuriad pob rhan o’r offeryn. Y gwneuthurwr enwocaf hyd heddiw yw Antonio Stradivari, o Cremona yn yr Eidal, ac nid oes gwelliannau sylweddol i’r dyluniad a berffeithiodd ers y cyfnod euraidd o’i offerynnau gorau rhwng 1700 a 1720.