Gwyddoniadur i blant oedd Chwilota, a gyhoeddwyd mewn saith cyfrol rhwng 1974 a 1989 gan Wasg Prifysgol Cymru.[1]

Chwilota
Enghraifft o'r canlynolgwaith cyfeiriol Edit this on Wikidata
Genregwyddoniadur Edit this on Wikidata
Saith cyfrol Chwilota

Golygydd y gyfres oedd D. Gwyn Jones ac ef, ar y cychwyn, oedd unig awdur yr erthyglau. O'r bedwaredd gyfrol ymlaen, cafwyd cymorth nifer o arbenigwyr i lunio'r gwaith.[2] Mae'r atodiad i'r gyfrol olaf yn cynnwys diweddariadau i'r cyfrolau cynharach.

Cyhoeddwyd y gwaith dan nawdd Cynllun Gwerslyfrau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Chwilota Cyfrol 7. Gwales.com. Cyngor Llyfrau Cymru (2013).
  2. Jones, D. Gwyn (1986). Chwilota, cyfrol 4. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0932-1