Gwyddoniadur

math o waith cyfeirio

Cyfrol ysgrifenedig gynhwysfawr, sy'n gasgliad o wybodaeth ar bwnc neu amrywiaeth o bynciau yw gwyddoniadur.

Brockhaus Konversations-Lexikon

Hanes y gwyddoniadur golygu

Ysgrifennwyd cyfrolau gwyddoniadurol gan rai o awduron Groeg yr Henfyd, megis Aristoteles, a Plinius. Un o brif ganolfannau i weithgarwch o'r fath oedd Llyfrgell enwog Alecsandria yn Yr Aifft.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, datblygwyd y dull gwyddonol a'r arfer o nodi ffynonellau gan ysgolheigion Mwslemaidd, a chynhyrchwyd sawl cyfrol gynhwysfawr. Ymysg y rhai mwyaf nodedig mae gwaith Abu Bakr al-Razi ar wyddoniaeth, 270 llyfr Al-Kindi, gwyddoniadur meddygol Ibn Sina, a chyfrolau hanes y Ash'ari, al-Tabri, al-Masudi, ac eraill.

Ysgrifennodd Cassiodorus (c.490 - c.580) wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop.

Datblygodd y gwyddoniadur modern o'r geiriadur yn ystod y 18g. Ymysg cyfrolau arloesol y ganrif honno mae'r Cyclopaedia, or Universal Dictionary of Arts and Sciences, Encyclopædia Britannica, a'r Brockhaus Konversations-Lexikon.

Cyhoeddwyd y gwyddoniadur aml-gyfrol Cymraeg cyntaf mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 dan yr enw Y Gwyddoniadur Cymreig, dan olygyddiaeth gyffredinol John Parry (1812-1874).

Geirdarddiad golygu

Ffurfiwyd y gair gwyddoniadur, gydag enghreifftiau o 1852 ymlaen, o'r terfyniad -iadur a'r gair gwyddon (sef cangen neilltuol o wybodaeth), o'r gair gwybod.[1] Daw'r gair am wyddoniadur mewn llawer o ieithoedd (Saesneg encyclopaedia a (Ffrangeg encyclopédie er enghraifft) o'r gair Lladin Canol encyclopaedia, o'r gair Roeg ενγκύκλια παιδεία "addysg gyffredinol". Mae gan y Gymraeg gair cynhenid am wyddoniadur, ac yn anarferol yn hynny o beth.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  gwyddoniadur. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
Chwiliwch am gwyddoniadur
yn Wiciadur.