Cyngor Llyfrau Cymru
Sefydlwyd Cyngor Llyfrau Cymru yn 1961 fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg. Erbyn heddiw noddir hi gan Lywodraeth Cymru. Amcanion y Cyngor yw i hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru, hybu'r diwydiant cyhoeddi, cynorthwyo a chefnogi awduron drwy gynnig amryw o wasanaethau a dosbarthu grantiau. Maent yn darparu gwasanaethau golygu a dylunio i gyhoeddwyr, darparu grantiau i awduron yn ogystal â grantiau cyhoeddwyr er mwyn hybu cyhoeddi llyfrau, gwasanaethau i lyfrgelloedd a chyfanwerthu llyfrau a deunydd perthnasol.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1961 |
Pencadlys | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.wbc.org.uk, http://www.cllc.org.uk |
Mae pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru yng Nghastell Brychan, Aberystwyth ac erbyn hyn, canolfan dosbarthu yn Mharc Busnes Glanyrafon ar gyrion y dref. Mae gan y ganolfan, drosiant o £5.5 miliwn y flwyddyn (net) ac mae 49 o aelodau staff parhaol yn gweithio rhwng y ddau safle.
Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio ar y cyd gyda nifer o gyrff a chwmniau eraill megis yr Academi Gymreig, Urdd Gobaith Cymru ac S4C. Mae'nt yn ymwneud â trefnu a hysbysebu gwobrau Llyfr y Flwyddyn, Bardd Plant Cymru a Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi.
Cyhoeddir nifer o daflenni a chatalogau llyfrau bob blwyddyn ar gyfer plant ysgol, a chatalogau ffuglen ac yn y blaen, ar gyfer oedolion. Rhai o'r hen gyhoeddiadau oedd Sbondonics a Sbri-di-ri, a ddaeth i ben yn 2009.
Anfonodd y Cyngor dros 1000 o lyfrau Cymraeg i Batagonia yn 2005, gwerth bron i £7,000 er mwyn helpu pobl yno i ddysgu'r Gymraeg.[1]
Prif weithredwyr
golyguDyma restr o gyfarwyddwyr neu brif weithredwyr y Cyngor ers y cychwyn, gyda'r dyddiad wnaethont gychwyn ei swydd.
- 1 Mawrth 1965 – Alun Creunant Davies[2]
- 1985 – Gwerfyl Pierce Jones
- 1 Tachwedd 2009 – Elwyn Jones[3]
- 1 Chwefror 2017 – Helgard Krause[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cludo llyfrau i Batagonia. BBC Cymru (15 Hydref 2005).
- ↑ Sefydlu'r Cyngor Llyfrau. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 6 Hydref 2016.
- ↑ Cyfarwyddwr Newydd i'r Cyngor Lyfrau. Cyngor Llyfrau Cymru (26 Mehefin 2009). Adalwyd ar 6 Hydref 2016.
- ↑ Cyhoeddi enw Prif Weithredwr newydd Cyngor Llyfrau Cymru , Golwg360, 6 Hydref 2016.