Chwyldro Saur
Chwyldro comiwnyddol yn Affganistan a arweiniwyd gan Blaid Ddemocrataidd Pobl Affganistan (PDPA) yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Mohammed Daoud Khan ar 27–28 Ebrill 1978 oedd Chwyldro Saur.
Enghraifft o'r canlynol | chwyldro |
---|---|
Rhan o | y Rhyfel Oer |
Dechreuwyd | 27 Ebrill 1978 |
Daeth i ben | 28 Ebrill 1978 |
Lleoliad | Affganistan |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Affganistan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ym 1973, cafodd Mohammed Zahir Shah, Brenin Affganistan, ei ddymchwel gan ei gefnder Mohammed Daoud Khan gyda chymorth Plaid Ddemocrataidd y Bobl (PDPA), a sefydlwyd Gweriniaeth Affganistan dan arlywyddiaeth Daoud. Erbyn diwedd y 1970au, roedd y cystadlu rhwng Daoud a'r comiwnyddion, a'r ymgecru rhwng dwy ymblaid y PDPA, y Parcham a'r Khalq, ar fin tanio. Ar 17 Ebrill 1978, saethwyd Mir Akbar Khyber, un o brif ideolegwyr y Parcham, yn farw yn Kabul. Nid yw'n sicr pwy oedd yn gyfrifol am ei lofruddio; cyhuddwyd y Gweinidog Mewnwladol Abdul Qadir Nuristani gan rai, ac Hafizullah Amin, arweinydd y Khalq, gan eraill. Yn ystod ei gynhebrwng, ar 19 Ebrill, gorymdeithiodd miloedd o gefnogwyr Khyber drwy strydoedd Kabul, a dychrynwyd Daoud gan y sloganau comiwnyddol a lafarganwyd ganddynt. Gorchmynnodd Daoud i'r lluoedd diogelwch syrthio'n drwm ar arweinyddiaeth y PDPA, ac arestiwyd Babrak Karmal ac eraill o hoelion wyth y comiwnyddion.[1]
Ar 27 Ebrill, lansiwyd coup d'état yn erbyn yr Arlywydd Daoud gan swyddogion comiwnyddol yn y fyddin. Cafodd ei alw'n "Chwyldro Saur" (Inqilab-e Saur) gan ei arweinwyr, gan gyfeirio at Saur, yr enw Dari ar yr ail fis yn y calendr Persiaidd (mis y Tarw yn ôl y Sidydd) ac i adlewyrchu taliadau chwyldroadol y comiwnyddion, a arddelid gan garfan y Khalq yn enwedig. Prif arweinwyr y coup oedd Abdul Qadir a Muhammad Rafi o'r Parcham, ac Aslam Watanjar a Sayid Muhammad Gulabzoi o'r Khalq. Danfonwyd tanciau, dan orchymyn Watanjar, i'r palas arlywyddol gyda chefnogaeth awyrennau ymladd a bomio o faes awyr Bagram. Erbyn 5 o'r gloch y bore ar 28 Ebrill, roedd Daoud a'r mwyafrif o'i deulu a'i gefnogwyr yn y palas wedi eu lladd. Cafodd aelodau amlwg o'r cyn-lywodraeth a phleidiau eraill, gan gynnwys Shula-i Javid ac Afghan Millat, eu herlid, a llofruddiwyd y cyn-brif weinidogion Nir Ahmad Etemadi a Muhammad Musa Shafiq.[1]