Mohammed Zahir Shah

Uchelwr Affganaidd o frenhinllin y Barakzai oedd Mohammed Zahir Shah (15 Hydref 191423 Gorffennaf 2007) a fu'n Frenin Affganistan o 1933 i 1973.

Mohammed Zahir Shah
Y Brenin Zahir Shah yn ei wisg filwrol ym 1963
Ganwyd15 Hydref 1914 Edit this on Wikidata
Kabul Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 2007 Edit this on Wikidata
Kabul Edit this on Wikidata
Man preswylDarul Aman Palace, Olgiata Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAffganistan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Janson-de-Sailly
  • Military College Jhelum
  • Habibia High School
  • Lycée Michelet, Vanves Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddMonarch of Afghanistan Edit this on Wikidata
TadMohammed Nadir Shah Edit this on Wikidata
MamMah Parwar Begum Edit this on Wikidata
PriodHumaira Begum Edit this on Wikidata
PlantPrincess Bilqis Begum of Afghanistan, Muhammad Akbar Khan, Crown Prince of Afghanistan, Ahmad Shah Khan, Crown Prince of Afghanistan, Princess Maryam Begum of Afghanistan, Prince Muhammad Nadir Khan of Afghanistan, Prince Shah Mahmud Khan of Afghanistan, Prince Muhammad Daoud Pashtunyar Khan of Afghanistan, Prince Mirwais Khan of Afghanistan Edit this on Wikidata
LlinachBarakzai dynasty Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Cadwen Frenhinol Victoria, Order of the Supreme Sun, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Ruban Urdd Cenedlaethol y Cedrwydd, Urdd y Seren Iwgoslaf, Order of Pahlavi, Uwch Cordon Urdd Leopold, Grand cross of the Order of the White Lion, Order of al-Hussein bin Ali, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Nishan-e-Pakistan, Urdd yr Hashimites, Uwch Groes Urdd y Gwaredwr, Nishan Mohamed Ali, Order of the Nile, Uwch Urdd Mugunghwa, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed yn Kabul, Teyrnas Affganistan, yn fab i Mohammed Nadir Khan. Esgynnodd Mohammed Nadir i'r orsedd ym 1929, a fe'i olynwyd gan ei fab Zahir Shah yn sgil ei lofruddiaeth yn Nhachwedd 1933. Byddai'n frenin tawedog am ryw 30 mlynedd, gan adael aelodau eraill ei deulu i lywodraethu.[1]

Mynnodd ei rym drwy gyfansoddiad 1964, a sefydlodd frenhiniaeth gyfansoddiadol. Aeth ati i ddatblygu isadeiledd ei wlad, gan gynnwys prosiectau dyfrhau ac adeiladu ffyrdd, gyda chymorth ariannol o Unol Daleithiau America a'r Undeb Sofietaidd. O ran polisi tramor, bu'n niwtral yn ystod y Rhyfel Oer. Er gwaethaf ei ddiwygiadau, ni chawsant fawr o effaith y tu allan i Kabul a'r cylch, ac yn nechrau'r 1970au dioddefai'r wlad o sychder a newyn.

Collodd ei rym yn sgil coup d'état ar 17 Gorffennaf 1973. Ymddiorseddai yn ffurfiol ar 24 Awst 1973 ac aeth yn alltud i'r Eidal. Dychwelodd i Affganistan yn 2002, a bu farw pum mlynedd yn ddiweddarach yn 92 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Mohammad Zahir Shah. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2021.