Chwyrligwgan
Tegan sy'n chwyrnellu yw chwyrligwgan, chwirligwgan neu chwrligwgan.[1][2] Cynhyrchir y chwyrligwgan traddodiadol o bren ac wedi ei baentio'n lliwgar fe roddir un math yn yr ardd er mwyn i'r gwynt chwythu'r felin wynt sy'n gweithio mecanwaith syml y tegan. Mae'r chwyrligwgan ar ffurf anifail, person, neu rywbeth arall sy'n medru symud, ac mae'r mecanwaith yn symud y ffurf, er enghraifft ceffyl sy'n carlamu neu goediwr yn llifio boncyff.
Math o gyfrwng | garden ornament |
---|---|
Math | rotating aerophones |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Am y chwilen, gweler chwyrligwgan (chwilen).
Daw "chwyrligwgan" o'r gair Saesneg whirligig.[1] Defnyddir yr enw chwyrligwgan weithiau am deganau eraill sy'n symud, megis top tro[3] neu ddarn o bren gyda thaten ar un pen a chneuen ar y pen arall, gyda llinyn yn eu cysylltu i wneud i'r tegan chwyrnellu.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 chwirligwgan. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Tachwedd 2014.
- ↑ Geiriadur yr Academi, [whirligig].
- ↑ Geiriadur yr Academi, [top].