Agor y brif ddewislen
Effaith gwynt ar dyfiant coeden

Nwyon yn symud drwy'r atmosffer ydy gwynt, a hynny ar raddfa anferthol. Mae meteorolegwyr yn diffinio gwynt fel aer sy'n symud yn llorweddol a gelwir symudiad aer fertigol yn gerrynt. Ceir hefyd wynt solar, sef symudiad gronynnau wedi'u gwefru sy'n dod allan o haul. Gellir astudio yr hyn sy'n achosi gwyntoedd yn ogystal a mesur eu cyfeiriad, eu cryfder ayb. Gelwir chwa fechan o wynt yn 'awel' a gall gwyntoedd uchel mewn trowyntoedd godi i hyd at 200 mya sy'n ddigon i ddifa adeiladau cyfan.

Mae gwyntoedd y byd wedi cael effaith ar ddatblygiad dyn a'i symudiad, a'i ymlediad dros wyneb y Ddaear. Mae gallu dyn i deithio ers milenia wedi dibynnu ar y gwynt i lenwi hwyliau cychod a llongau hwylio gan ei yrru i ynysoedd a chyfandiroedd newydd. Yn y ddau gan mlynedd diwethaf, harnesodd y gwyddonydd y gwynt gan ei ddefnyddio fel ffynhonnell trydan a phwer i wneud gwaith mecanyddol.

Cynnwys

Achos gwyntGolygu

Achosir gwynt gan wahanol wasgeddau aer mewn ardaloedd gwahanol. Achosir hyn gan amrywiad yng nghryfder pelydredd'r haul dros wahanol ardaloedd oherwydd ffactorau fel gorchudd cwmwl, lleithder aer, agwedd a lledred. Y ddau brif achos o gylchdro atmosfferig ar raddfa fawr ydyw'r gwahaniaeth enfawr yn nhymeredd y cyhydedd a'r pegynau ynghyd â chylchdro'r blaned (yr effaith Coriolis). Mae gwyntoedd lleol ar yr arfordir yn diffinio'r gwynt lleol, a gall ffurfwedd mynyddoedd a dyffrynoedd hefyd ddifinio'r patrwm lleol.

Dywediadau CymraegGolygu

  • gwynt adwyth - rhyw haint ar y ffordd (1822)[1]
  • gwynt i'r bôn braich - rhoi nerth i berson i wneud ei waith
  • gwynt y bwch - arogl ofnadwy / ogla cas bwch gafr; neu'n ffigyrol 'clywed gwynt y bwch' - I smell a rat!
  • gwynt byr - heb lawer o anadl
  • gwynt carthen - yr awel a geir o ysgwyd blanced. Yn ffigyrol / negyddol am berson sy'n siarad yn neis-neis
  • gwynt i'r gesail - gwynt i'r bôn braich (Dyfed) 
  • gwynt cilddor - draught, hy gwynt pan fo drws yn gil agored, neu fwlch sy'n caniatau i wynt ddod mewn i'r t
  • gwynt coch Amwythig - gwynt o'r Dwyrain (Sir Drefaldwyn)
  • gwynt y creigiau - gwynt o'r gogledd-orllewin (o gyfeiriad yr Wyddfa), gwynt oer; (Sir Drefaldwyn)
  • gwynt croes - yn ffigyrol: treialon bywyd yn profi person
  • gwynt y cythral - gwynt croes (13g)
  • gwynt y de - 14g (Dafydd ap Gwilym)
  • gwynt y dwyrain - 1588
  • gwynt ffalm (ffalwn) - gwynt o'r gorllewin (15g)
  • gwynt ffroen yr ych - gwynt y dwyrain - ar lafar gan borthmyn y de
  • gwynt (y) gogledd - 13g
  • gwynt (y) gorllewin - 13g
  • gwynt hedeg - gwynt sy'n hedfan (1798)
  • gwynt masnachol neu wyntoedd trafnidiol - trade winds (1833)
  • gwynt o’r môr: sea-breeze
  • gwynt Senghennydd - gwynt o'r dwyrain
  • gwynt teg ar ôl person - twll ei din (good riddance)
  • gwynt traed y meirw - gwynt y dwyrain (mae hyn yn cyfeirio at yr arferiad o gladdupobl gyda'u traed yn wynebu'r dwyrain)
  • a'i wynt yn ei ddwrn / a’i wynt yn ei wddf / allan o wynt - allan o wynt ar ôl rhedeg (Twm o'r Nant 1808)
  • codi'n wynt - y gwynt yn cryfhau
  • dan ei wynt / dan ei gwynt - yn dawel neu'n sibrwd
  • yn y gwynt - ar y gweill; 'mae rhyw newid yn y gwynt...' (Ellis Wynne; 1703)
  • byw ar y gwynt - heb lawer o fwyd
  • mynd a'r gwynt o hwyliau rhywun - bod yn negyddol / sarhaus o berson

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC); adalwyd 12 Ionawr 2016
Chwiliwch am gwynt
yn Wiciadur.