Ci Hafanaidd

brîd o gi

Ci arffed sy'n tarddu o Giwba yw'r Ci Hafanaidd (Sbaeneg: Habanero) a elwir ar ôl dinas La Habana. Dyma gi cenedlaethol Ciwba, ac yn ôl yr American Kennel Club yr unig frîd sydd yn frodorol i'r ynys.[1] Mae'n debyg iddo ddisgyn o gŵn Bichon o'r Ynysoedd Dedwydd a ddygwyd i Giwba gan fasnachwyr Eidalaidd neu Sbaenaidd.[2]

Ci Hafanaidd
Math o gyfrwngbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
GwladCiwba Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ci hynod o chwareus ydy'r Ci Hafanaidd sydd yn gi anwes addas iawn i'r teulu. Gall hefyd fod yn warchotgi da. Mae ganddo uwch-gôt donnog o flew sidanaidd, a all fod o unrhyw liw. Mae'n tyfu i 23–28 cm ac yn pwyso 3–6 kg, ac yn byw mwy na 12 mlynedd.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Havanese", American Kennel Club. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2020.
  2. 2.0 2.1 Kathryn Hennessy et al., The Dog Encyclopedia (Llundain: Dorling Kindersley, 2013), t. 274.