Ci Smwt
Ci arffed sy'n tarddu o Tsieina yw'r Ci Smwt,[1] y Pwg,[1][2] y Corgi Tarw[1] neu'r Apgi.[3] Mae'n gi ffyddlon a bywiog, ac yn anifail anwes poblogaidd.[4]
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Lliw/iau | arian, fawn, du |
Màs | 6.3 cilogram, 8.1 cilogram |
Gwlad | Tsieina |
Rhan o | Ci arffed |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd y brîd ei gyflwyno i Loegr tua diwedd yr 17g gan fasnachwyr Iseldiraidd. Mae ganddo drwyn byr a chynffon gyrliog. Mae'n gi gyhyrog gyda phen mawr, llygaid mawr tywyll, a chlustiau bychain, llipa. Mae ganddo daldra o 25.5 i 28 cm (10 i 11 modfedd) ac yn pwyso 6 i 8 kg (14 i 18 o bwysau). Mae ganddo gôt byr a gloyw sydd yn ddu, yn felynllwyd ac arian neu'n felynllwyd a lliw bricyll gyda llinell ddu ar y cefn ac yn ddu ar y trwyn a'r geg.[4]
Gelwir grŵp o bygiau yn "grumble".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Geiriadur yr Academi, [pug].
- ↑ pwg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ apgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) pug. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2014.