Cicio'r bar
Traddodiad poblogaidd gan drigolion a myfyrwyr tref Aberystwyth yw cicio'r bar.
Math o gyfrwng | traddodiad |
---|
Bydd cerddwyr yn rhoi cic i'r bar metal, sef canllaw ar hyd diwedd Promenâd y dref wrth droed Craig-glais. Rhoir cic i'r bar fel rheol wedi i'r cerddwyr gerdded hyd y Promenâd.
Ceir ffilm o 1933 o fyfyrwyr yn cicio'r bar.[1]
Theorïau dros Gicio'r Bar
golyguCeir sawl theori dros yr arfer:
- Awgrymir bod myfyrwyr gwrywaidd ar ddechrau'r 20g yn cicio'r bar er mwyn gwastraffu amser neu am lwc wrth iddynt aros i gwrdd â'u cariadon neu ddarpar gariadon yn Neuadd Alexandra, neuadd breswyl i ferched oedd yn sefyll ger y bar.
- Awgrymir hefyd fod pobl yn cicio'r bar er mwyn gwarchod rhag ysbrydion drwg gan yr oedd man crogi'r dre'n arfer bod ger llaw. Un theori boblogaidd yw i'r Brenin Edward VII bwyso ei droed ar y trawst er mwyn clymu creiau ei esgid wrth ymweld â'r dref yn 1894 ac i'r trigolion ddynwared yr arfer.
- Theori arall yw i fachgen lleol, Evan Moore, achub ei fywyd ei hun wrth afael yn y bar wrth i storm ei lusgo allan i'r môr ar ddydd Gwener 14 Ionawr 1938. Dywedir bod cicio'r bar yn ffordd o gofnodi hyn.
- Nodir hefyd y gred y byddai cicio'r bar yn dod â lwc i fyfyrwyr yn ei arholiadau gradd.
- Theori arall yw fod achos o'r diciâu wedi bwrw myfyrwyr yn yr 1920au. Arferent gerdded ar hyd y Promenâd er mwyn cryfhau ac i hwythau gigio'r bar tair gwaith i sicrhau y byddent yn dychwelyd i'r dref eto'n iach.
Dichon fod cyfuniad o resymau dros gicio'r bar ac i'r arfer estyn yn ôl cyn belled â diwedd y 19g.
Dwyn y Bar
golyguCymaint oedd enwogrwydd cicio'r bar i dref a phrifysgol Aberystwyth fel i fyfyrwyr Abertawe ddwyn trawst o'r bar yn ystod Wythnos y Glas yn yr 1960au cynnar. Dilynwyd y 'lladron' gan fyfyrwyr Aberystwyth ac achub y bar i'r dref. Prif leidr Abertawe oedd y myfyriwr Fred Wedlock a ddaeth yn ganwr gwerin Saesneg a chomedïwr ar y cylchdaith gwerin maes o law. Cafodd hefyd 'hit' gyda'i gân 'The Oldest Swinger in Town' a frigwyd yn rhif 6 yn y Siartiau yn Chwefror 1981. Bu farw yn 2010. Roedd ei daid yn gapten tîm pêl-droed Lloegr a'i dad a'i ewythrod yn chwarae i Bristol City.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=1eMOe9bc20U Ffilm ar You Tube