Cilgant Llyn Cerrig Bach

Mae Cilgant Llyn Cerrig Bach yn dyddio o 200CC i OC100 yn yr Oes Haearn, a darganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach.

Cilgant Llyn Cerrig Bach

Mae'r cilgant yn fownt efydd addurnol o ddyluniad La Tène a allai fod wedi'i ddefnyddio i addurno tarian.

Hanes golygu

Cilgant efydd a allai fod wedi'i ddefnyddio i addurno tarian yw Plac Llyn Cerrig Bach.[1][2] Mae'n dyddio o rhwng 200CC ac OC100. Cafodd ei daflu i Lyn Cerrig Bach, Ynys Môn.[3] Cyfeirir ato hefyd fel motiff trwmped, [4] sy'n gynrychioli'r byw, y meirw a'r duwiau neu gylchred genedigaeth, bywyd a marwolaeth. [5]

Mae eraill yn credu bod y symbol triskele ar y cilgant i gynrychioli daear, gwynt a dŵr. Mae’r patrwm wedi’i guro o’r cefn yn fedrus ac efallai ei fod wedi’i osod ar gerbyd, tarian neu offeryn cerdd yn Oes yr Haearn.[6]

Dywedodd Dr Mark Redknap o Amgueddfa Cymru, fod y cilgant yn cael ei "gydnabod yn eang fel un o 'gymeriad deinamig ac arwyddocâd' dwys ar gyfer deall celfyddyd Geltaidd Gynnar ym Mhrydain".[7] Mae'r cilgant yn un o'rdarnau mwyaf arwyddocaol o'r 181 o ddarnau metel La Tène a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach. Ddarganfuwyd y darnau yn ystod adeiladu RAF Fali yn 1942 o ganlyniad i gloddio mawn.[8]

Mae John Creighton yn awgrymu y gallai derwyddon fod wedi dylanwadu ar ddyluniad artistig gan gynnwys cynlluniau darnau arian, gan ddangos eu grym a’u hawdurdod mynegiannol, gyda phlac Llyn Cerrig Bach yn enghraifft o hyn.[9]

Arddangoswyd darganfyddiadau Llyn Cerrig Bach yn Oriel Ynys Môn yn Llangefni o 14 Gorffennaf hyd at Dachwedd 11 yn 2012. [10]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Llyfryddiaeth golygu