Cill Chainnigh
Tref yn Iwerddon yw Cill Chainnigh[1] (Saesneg: Kilkenny), sy'n dref sirol Swydd Cill Chainnigh yn nhalaith Leinster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain yr ynys tua 38 milltir i'r gogledd o Waterford a thua 65 milltir i'r de-orllewin o'r brifddinas, Dulyn. Saif ar lan Afon Nore. Roedd poblogaeth Cill Chainnigh yn y cyfrifiad diwethaf yn 22,179 (2011).
Math | dinasoedd seremoniol yng Ngweriniaeth Iwerddon, dinas, cyngor tref yng Ngweriniaeth Iwerddon, tref |
---|---|
Poblogaeth | 22,179 |
Gefeilldref/i | Yangzhou, Moret-sur-Loing, Formigine |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Kilkenny |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 26.76 km² |
Uwch y môr | 60 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Ballyragget |
Cyfesurynnau | 52.6477°N 7.2561°W |
Cod post | R95 |
Dyma un o drefi hanesyddol mawr Iwerddon, gyda dwy gadeirlan, castell a nifer o adeiladau eraill. Ceir amgueddfa sy'n esbonio hanes Kilkenny yn Nhŷ Rothe. Yma hefyd mae bragdy E. Smithwick & Sons, hoff gwrw Iwerddon ar ôl Guinness.[2]
Adeiladau
golygu- Castell Kilkenny
- Eglwys Gadeiriol Sant Canice (Protestannaidd)
- Eglwys Gadeiriol y Santes Fair (Catholigaidd)
- Priordy Sant Ioan
- Yr Abaty Du
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
- ↑ Clive James, Iwerddon (Gwasg Carreg Gwalch, 1993), t.156