Cilla Black
Roedd Cilla Black OBE (ganed Priscilla Maria Veronica White; 27 Mai 1943 – 1 Awst 2015) yn gantores, cyfansoddwraig a chyflwynwraig teledu o Loegr. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel cantores, aeth Black ymlaen i fod y cyflwynwraig benywaidd i gael ei thalu fwyaf yn hanes teledu Prydeinig, yn ei chyfnod.
Cilla Black | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
27 Mai 1943, 23 Mai 1943 ![]() Vauxhall ![]() |
Bu farw |
1 Awst 2015, 2 Awst 2015 ![]() Achos: Strôc ![]() Estepona (Málaga) ![]() |
Label recordio |
EMI, Bell Records, Parlophone Records ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth |
canwr, actor, cyflwynydd teledu, cerddor, canwr-gyfansoddwr, game show host ![]() |
Arddull |
cerddoriaeth boblogaidd ![]() |
Priod |
Bobby Willis ![]() |
Gwobr/au |
OBE ![]() |
Gwefan |
http://www.cillablack.com/ ![]() |
Cychwynodd ei gyrfa fel cantores yn 1963 a chyrhaeddodd ei senglau "Anyone Who Had a Heart" (1964) a "You're My World" (1964) rif un. Cafodd lwyddiant gyda 11 o ganeuon a gyrhaeddodd y Top Ten rhwng 1964 a 1971. Ym Mai 2010, dangosodd ymchwil gan y BBC (BBC Radio 2) mai ei fersiwn hi o "Anyone Who Had a Heart" oedd y sengl gan ferch a werthodd fwyaf drwy'r 1960au.[1]
Roedd yn 72 oed ac yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r cyfresi Blind Date a Surprise, Surprise. Bu farw'i phriod Bobby Willis, a oedd hefyd yn Rheolwr iddi, yn 1999; roedd ganddynt ddau fab. Bu farw yn ei chartref yn Marbella, Sbaen.
AlbymauGolygu
- Cilla (1965)
- Cilla Sings a Rainbow (1966)
- Sher-oo! (1968)
- Surround Yourself with Cilla (1969)
- Sweet Inspiration (1970)
- Images (1971)
- Day by Day with Cilla (1973)
- In My Life (1974)
- It Makes Me Feel Good (1976)
- Modern Priscilla (1978)
- Especially for You (1980)
- Surprisingly Cilla (1985)
- Cilla's World (1990)
- Through the Years (1993)
- Beginnings: Greatest Hits & New Songs (2003)
- Cilla All Mixed Up (2009)
TeleduGolygu
- Surprise Surprise (1984–2001)
- Blind Date (1985–2003)
- The Moment of Truth (1998–2001)
- Loose Women (2009, 2010–2011, 2014)
- The One & Only Cilla Black (2013)
HunangofiantGolygu
- Step Inside (1985) ISBN 0-460-04695-0.
- What's It All About? (2003) ISBN 0-09-189036-5.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Biggest selling chart stars of the '60s". The Daily Telegraph. London. 1Mehefin 2010. Cyrchwyd 2 Mehefin 2010. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help)