Kilchoan
pentref yng Nghyngor yr Ucheldir, yr Alban
(Ailgyfeiriad o Cille Chòmhghain)
Pentref yng Nghyngor yr Ucheldir, yr Alban, yw Kilchoan[1] (Gaeleg yr Alban: Cille Chòmhain).[2]
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 56.698°N 6.103°W |
Cod OS | NM482638 |
Dyma'r pentref mwyaf orllewinol yr Alban, ar benllyn Àird nam Murchan. Mae poblogaeth y pentref tua 150. Saif eglwys plwyf Àird nam Murchan yn y pentref. Mae canolfan dwristiaeth, swyddfa’r post a chanolfan gomuned. Mae fferi Caledonian MacBrayne (Calmac), yn cysylltu’r pentref â Tobar Mhoire (Tobermory) ar ynys Muile. Mae Castell Mhìogharraidh (Saesneg: Mingary), erbyn hyn yn westy, gerllaw.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Mehefin 2022
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-05-23 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 11 Mehefin 2022
- ↑ Gwefan undiscoveredscotland.com