Paul Cézanne

beintiwr Ffrangeg, ystyrir ei waith arloesol yn ystod ail hanner y 19eg ganrif fel sylfaen i'r newidiadau radicalaidd a datblygodd yn y byd celf yn ystod yr 20fed ganrif

Roedd Paul Cézanne (19 Ionawr 183922 Hydref 1906) yn beintiwr Ffrengig. Ystyrir ei waith arloesol yn ystod ail hanner y 19g fel sylfaen i'r newidiadau radicalaidd a datblygodd yn y byd celf yr 20g. Defnyddiodd ddarnau o liwiau a strociau brwsh bach i adeiladu astudiaethau cymhleth. Mae'r paentiadau’n cyfleu ei ystyriaeth ddwys o’r ffigwr neu’r tirwedd dan sylw.

Paul Cézanne
Cézanne tua 1861
Ganwyd19 Ionawr 1839 Edit this on Wikidata
Aix-en-Provence Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1906 Edit this on Wikidata
Aix-en-Provence Edit this on Wikidata
Man preswylGardanne, quai d'Anjou Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Aix-Marseille
  • Académie Suisse
  • Prifysgol Paul Cézanne Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, gwneuthurwr printiau, lithograffydd, drafftsmon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBanks of the Marne, A Modern Olympia, Mountains Mont Sainte-Victoire Seen from the Bibémus Quarry Edit this on Wikidata
Arddullbywyd llonydd, peintio genre, celf tirlun, portread Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadEugène Delacroix, Gustave Courbet Edit this on Wikidata
MudiadÔl-argraffiaeth Edit this on Wikidata
TadLouis-Auguste Cézanne Edit this on Wikidata
MamAnne Elisabeth Aubert Edit this on Wikidata
PriodMarie-Hortense Fiquet Edit this on Wikidata
PlantPaul Cézanne Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://paul-cezanne.org Edit this on Wikidata
llofnod

Yn ddylanwad mawr ar Picasso, Matisse, Braque, Metzinger a nifer fawr o arlunwyr eraill. Mae Matisse a Picasso i fod wedi dweud bod Cézanne yn dad ini gyd.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd yn Aix-en-Provence de-ddwyrain Ffrainc, heb fod yn bell o'r ffin gyda'r Eidal. Gall y cyfenw Cézanne fod o dras Eidaleg[1]

Roedd ei dad yn gyfoethog, yn gyd-sylfaenydd banc, a oedd yn gallu sicrhau bywyd cyfforddus i’w fab, rhywbeth nad oedd yn bosib i'r rhan fwyaf o arlunwyr a oedd gorfod dibynnu ar werthu eu cynfasau yn unig.[2] Yn yr ysgol roedd yn ffrind agos gydag Émile Zola a aeth ymlaen i fod yn ysgrifennwr enwog.[3]

Astudiodd Cézanne y gyfraith ar ôl gadael yr ysgol i blesio ei dad, er gwaethaf ei diddordeb yn arlunio.[4] Ond cyn hir, gyd chryn anogaeth oddi wrth ei hen ffrind Zola a mawr siom ei dad, gadwodd y brifysgol ym 1861 i fyw ym Mharis i fod yn arlunydd. Serch hynny, yn ddiweddarach, derbyniodd Cézanne swm sylweddol iawn o arian mewn etifeddiaeth oddi wrth ei dad.[5]

Cézanne yr arlunydd golygu

 
Les joueurs de carte (Y Chwaraewyr Cardiau) - gwaith eiconig Cézanne, 1892-95, olew ar gynfas, 60 x 73 cm, Sefydliad Celf Courtauld, Llundain

O dan ddylanwad Romantisme a steil yr arlunwyr Argraffiadol (Impressionniste) cyntaf roedd gwaith cynnar Cézanne yn dueddol o fod yn dywyll. Datblygodd arddull gyda chyllell palet a alwodd yn caloreiddio a oedd yn cynnwys sawl llun treisgar o ferched, fel Merched yn gwisgo amdani, (tua 1867), Y Treisio (tua 1867) ac Y Llofruddiaeth (tua 1867-68) a ddangosodd ddyn yn trywanu merch wrth iddi gael ei dal i lawr gan ferch arall.

Ar ddechrau'r rhyfel Ffrainc-Prussia ym 1870, dihangodd Cézanne o Baris i L'Estaque yn Provence ble peintiodd tirluniau yn symud yn ôl i Baris ym 1871. Ym 1874 dangoswyd gwaith Cézanne yn arddangosfa gyntaf y grŵp Argraffiadaeth (Impressionnisme) ac ym 1877 y drydedd arddangosfa. Cyfarfu â'r peintiwr Camille Pissarro o'r grŵp a fu'n ddylanwad mawr arno, y ddau yn teithio trwy gefn gwlad Ffrainc i beintio tirluniau. Er gwaethaf ei lwyddiant a sylw cynyddol ym Mharis roedd well ganddo dychwelyd i Provence i beintio ar ben ei hun. O dan ddylanwad Pissaro rhoddodd y gorau i liwiau tywyll ac fe ddaeth ei gynfasau'n llawer ysgafnach a bywiog.[6]

Canolbwyntiodd Cézanne ar nifer cyfyngedig o bynciau – portreadau, tirluniau, bywyd llonydd ac astudiaethau o bobl yn nofio. Defnyddiodd lefydd, pobl a'r pethau o'i amgylch am y tri cyntaf: aelodau'r teulu a phentrefwyr ac ar gyfer y portreadau, tirwedd Provance am y tirluniau, a phethau fel ffrwythau ar gyfer y bywyd llonydd. Ond ar gyfer y nofwyr bu rhaid iddo ddylunio o'i ddychymyg oherwydd diffyg modelau.

Arbrofodd symleiddio ffurfiau naturiol i siapiau geometrig elfennol (er enghraifft - lleihau boncyff coeden i silindr - neu oren i belen). Arbrofodd hefyd sut i gyfleu dyfnderoedd a sawl safbwynt yn yr un llun.

Symudodd rhwng Paris a Provence nes iddo gael stiwdio yn Provance gyda ffenestri mawr i'w oleuo. Peintodd gyda Renoir yno ym 1882 a bu'n ymweld â Renoir a Monet in 1883. O hyn ymlaen arhosodd yn bennaf ym Provence, gan ddewis bywyd distaw a thirwedd ei hen filltir sgwâr dros brysurdeb y ddinas.

Mae ei hen dŷ yn Aix-en-Provence bellach ar agor i'r cyhoedd.[7]

Rhai o'i weithiau enwocaf golygu

Oriel golygu

Peintiadau golygu

Bywyd llonydd golygu

Dyfrlliw golygu

Portreadau a hunain-bortreadau golygu

Nodiadau golygu

  1. J. Lindsay Cézanne; his life and art, p.3
  2. "Paul Cézanne Biography (1839–1906)". Biography.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-03. Cyrchwyd 17 February 2007.
  3. "National Gallery of Art timeline, retrieved February 11, 2009". Nga.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-05. Cyrchwyd 19 January 2011.
  4. P. Cézanne Paul Cézanne, letters, p.10
  5. J. Lindsay Cézanne; his life and art, p.232
  6. Rosenblum 1989, p. 348
  7. http://www.cezanne-en-provence.com/page/en/15.xhtm[dolen marw]

Llyfryddiaeth golygu

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
 
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: