Clastir
ardal o dir o fewn plwyf eglwysig a ddefnyddwyd i roi bywoliaeth i offeiriad y plwyf
Ardal o dir o fewn plwyf eglwysig a ddefnyddwyd i roi bywoliaeth i offeiriad y plwyf oedd clastir neu tir llan. Yn hanesyddol, rhoddwyd clastir i’r rheithor, er mwyn ychwanegu at ei incwm o’r degwm. Byddai maint y tir o'r fath yn amrywio o blwyf i blwyf, gan ffurfio fferm weddol fawr o bryd i'w gilydd. Gallai'r rheithor gadw’r clastir iddo'i hun, fel arfer at ddibenion amaethyddol, neu gallai ei “ffermio”[1] (h.y. ei osod ar brydles) i rywun arall a chadw’r rhent fel yr incwm.
Enghraifft o'r canlynol | eiddo |
---|---|
Math | perchenogaeth |
Daeth y drefn hon i ben o’r diwedd yn Eglwys Loegr ar 1 Ebrill 1978, yn rhinwedd yr Endowments and Glebe Measure 1976,[2] pan drosglwyddwyd perchnogaeth y tiroedd o’r plwyf i’r esgobaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ffermio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mawrth 2022. (Gweler diffiniad b.)
- ↑ "Endowments and Glebe Measure 1976"; deddfwriaeth.gov.uk