Plwyf
Plwyf yw math o israniad gweinyddol sy'n cael ei ddefnyddio gan rai eglwysi Cristnogol, a hefyd fel uned lywodraeth leol mewn rhai gwledydd.
Unedau gweinyddol lleol yn seiliedig ar diriogaeth cymunedau bychain oedd y plwyfi a sefydlwyd gan yr Eglwys Gatholig yn yr Oesoedd Canol.
Plwyfi Cymru
golyguYng Nghymru nid oedd plwyfi fel y cyfryw yn bod cyn Oes y Tywysogion. Un o ganlyniadau dyfodiad y Normaniaid i Gymru oedd lledaenu dylanwad trefn eglwysig y cyfandir ac awdurdod y Pab. Creuwyd y plwyfi ar sail y llannau a fodolai eisoes, gyda'r eglwys leol yn ganolfan iddynt.
Yn ddiweddarach, yn y Cyfnod Modern, defnyddiwyd y plwyfi fel unedau gweinyddol llywodraeth leol, mewn trefn gyfochrog i'r honno a fodolai yn Lloegr. Mae cofnodion plwyf yn ffynhonnell bwysig i haneswyr lleol, gan fod manylion am enedigaethau, priodasau a marwolaethau i'w cael ynddynt, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol am fywyd y plwyfolion. Heddiw mae'r plwyfi yn dal i fod yn unedau yn nhrefn llywodraeth leol Lloegr, ond yng Nghymru cymerwyd eu lle gan gynghorau cymuned. Yn y drefn eglwysig mae'r plwyf yn parhau fel uned weinyddol sylfaenol Yr Eglwys yng Nghymru.