Claudio Monteverdi

cyfansoddwr a aned yn 1567

Cyfansoddwr ac offeiriad o'r Eidal oedd Claudio Monteverdi (bedyddiwyd 15 Mai 1567 - 29 Tachwedd 1643). Mae ei waith fel cyfansoddwr yn garreg filltir bwysig sy'n nodi'r trawsnewid o gerddoriaeth y Dadeni i gerddoriaeth Faróc.[1]

Claudio Monteverdi
Ganwyd15 Mai 1567 Edit this on Wikidata
Cremona Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd15 Mai 1567 Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 1643 Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaethdamcaniaethwr cerddoriaeth, fiolydd, offeiriad Catholig, cyfansoddwr clasurol, canwr, cyfansoddwr, cyfansoddwr opera, coreograffydd, cerddolegydd Edit this on Wikidata
Swyddcôr-feistr, côr-feistr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amL'incoronazione di Poppea, L'Orfeo, Il ritorno d'Ulisse in patria, Il combattimento di Tancredi e Clorinda Edit this on Wikidata
Arddullopera, cerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth y Dadeni, cerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
PriodClaudia de Cattaneis Edit this on Wikidata
llofnod
Claudio Monteverdi

Bywyd personol golygu

 
Penddelw o Claudio Monteverdi yng 'Ngerddi Ioan Pawl II', yn Cremona, yr Eidal.

Fe'i ganwyd yn Cremona'n fab i'r meddyg Baldassare Monteverdi. Yn 1599 priododd y gantores llys Claudia Cattaneo,[2] a fu farw ym Medi 1607.[3] Roedd ganddynt ddau fab (Francesco a Massimilino) a merch (Leonora). Bu farw merch arall yn union wedi' enedigaeth.[4]

Yn 1632 fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Pabyddol.[5]

Bu farw Monteverdi yn Fenis ar 29 Tachwedd 1643, ar ôl cystudd byr, a chladdwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Gloriosa dei Frari.

Ei waith fel cyfansoddwr golygu

Roedd yn un o arloeswyr mwyaf blaenllaw dwy arddull gerddorol: 'Deulais y Dadeni' (Renaissance polyphony) a'r basso continuo, dau o dechnegau pwysicaf y Baróc.[4] Cyfansoddodd Monteverdi un o'r operâu cyntaf erioed: y L'Orfeo, a dyma'r opera hynaf - sy'n dal i gael ei chanu'n rheolaidd heddiw. Caiff Monteverdi ei ystyried yn gyfansoddwr a ddarganfu ei lais ei hun; llais newydd, gwahanol a chafodd y clod teilwng yn ystod ei oes yn ogystal ag wedyn.[4]

Yn ystod ei flynyddoedd olaf, mewn cyfnod o salwch, y cyfansoddodd ddau o'i gampweithiau gorau: Il ritorno d'Ulisse in patria (Dychweliad Ulysses, 1641), a'r opera hanesyddol L'incoronazione di Poppea (Coroni'r Poppea, 1642), sy'n seiliedig ar fywyd yr Ymerawdwr Nero.[6] Cyfrifir y L'incoronazione yn hynod bwysig, ei fagnum opus, ac mae'n cynnwys golygfeydd sy'n gymysgedd o drasiedi, rhamant a hwyl - yn union fel bywyd ei hun. Caiff hefyd ei gyfri fel llafn y swch Faróc, a dorrodd dir newydd, gyda'i gymeriadau real a'i gynghanedd cerddorol cynnes.[7] Hyd at y 1960 ystyriwyd ei weithiau drwy lygad yr hanesydd yn hytrach na'r cerddor, ond ers hynny fe'i gosodir ar lwyfan llawer uwch, yn enwedig The Coronation of Poppea, sy'n cael ei chanu heddiw ledled y byd.

 
Mae'r beddrod yn y Basilica di Santa Maria Gloriosa dei Frari

Y madrigalau golygu




Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Ar fadrigalau y gweithiodd hyd nes oedd yn ei bedwar-degau, a chyfansoddodd naw llyfr. Cymerodd bedair blynedd i orffen ei lyfr cyntaf o 21 madrigal, ar gyfer 5 llais.[8] Fel cyfanwaith, gellir olrhain yr esblygiad o gerddoriaeth y Dadeni i arddull 'fonodig' cerddoriaeth Faróc yn y gweithiau hyn.

Yn dilyn ei farwolaeth golygu

Yn ogystal â nifer o enwau ffyrdd, neilltuwyd hefyd asteroid i'w goffáu: 5063 Monteverdi.[1] Ceir nifer o gorau a llefydd hefyd sy'n dwyn ei enw: Grŵp Polyffonig Claudio Monteverdi, Crema di Claudio Monteverdi Coro a Chôr Monteverdi.

Cyfansoddiadau golygu

Operâu golygu

Cyfansoddodd Monteverdi o leiaf deunaw opera. Dim ond y rhai a restrir isod sydd wedi goroesi.

Gweithiau seciwlar a chrefyddol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Collier's Encyclopedia, gol. William D. Halsey, cyf. 16 (Efrog Newydd: Macmillan Educational Company, 1991)
  2. The Cambridge Companion to Monteverdi, gol. John Whenham a Richard Wistreich (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2007)
  3. The Cambridge Companion to Monteverdi, tud. 66.
  4. 4.0 4.1 4.2 Mark Ringer, Opera's First Master: The Musical Dramas of Claudio Monteverdi (Canada: Amadeus Press, 2006)
  5. New Catholic Encyclopedia, 2il argraffiad, gol. Benard L. Marthaler (Detroit: Thomson Gale, 2003
  6. The New Grove Dictionary of Music and Musicians, 2il argraffiad, gol. Stanley Sadie (Llundain: Macmillan, 2001)
  7. The New Monteverdi Companion, gol. Denis Arnold a Nigel Fortune (Llundain: Faber, 1985).
  8. Leo Schrade, Monteverdi: Creator of Modern Music (Efrog Newydd: W. W. Norton & Company, 1950)

Llyfryddiaeth golygu

  • The New Monteverdi Companion, gol. Denis Arnold a Nigel Fortune (Llundain: Faber and Faber, 1985)
  • The Cambridge Companion to Monteverdi, gol. John Whenham a Richard Wistreich (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2007)

Dolenni allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.