Claus Sluter
Cerflunydd o'r Iseldiroedd a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa ym Mwrgwyn oedd Claus Sluter (sillefir hefyd Claes neu Klass; 1340au – rhwng 24 Medi 1405 a 30 Ionawr 1406)[1] sydd yn nodedig am ei waith yn y dull Gothig. Cydnabyddir Sluter am droi oddi ar ddelfrydau'r Gothig Rhyngwladol a thuag at ffurfiau naturiolaidd a realaidd, gan arloesi celf Iseldiraidd cynnar a dylanwadu'n gryf ar gerfluniaeth Dadeni'r Gogledd.
Claus Sluter | |
---|---|
Ganwyd | 1340 Haarlem |
Bu farw | 1406 Dijon |
Galwedigaeth | cerflunydd |
Adnabyddus am | Ffynnon Moses |
Nid oes llawer o fanylion sicr am fywyd Claus Sluter. Ganed ef yn Haarlem, mae'n debyg, yng nghyfnod Iarllaeth Holand. Credir taw efe yw'r "Claes de Slutere van Herlam" a gofnodir gan urdd y seiri meini ym Mrwsel tua 1379. Yn ôl archifau Dugiaeth Bwrgwyn, ymunodd Sluter â gwasanaeth y Dug Philippe II ym 1385. Gwnaed y tri cherflun y gwyddys eu bod gan Sluter, ac sydd wedi goroesi, ar gyfer Philippe II.[1]
Saif dau o weithiau enwocaf Sluter ym mynachlog Carthwsaidd Champmol ar gyrion Dijon, prifddinas Bwrgwyn, yn y capel a adeiladwyd gan y Dug Philippe i fod yn feddrod ar gyfer ei linach. Cerfiodd Sluter bortreadau o'r Dug a'i wraig, ar ffurfiau Ioan Fedyddiwr a'r Santes Gatrin o Alecsandria, ar y piler ym mhorth y capel, a chyflawnodd hefyd Ffynnonn Moses yn y clawstr sydd yn portreadu croeshoelio'r Iesu. Yr unig esiampl arall o'i waith ydy beddrod y Dug Philippe, a safai ar un adeg yn y capel yn Champmol ond sydd bellach wedi ei symud i Amgueddfa'r Celfyddydau Cain yn Dijon.
Bu farw Claus Sluter yn Dijon, yn ei drigeiniau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Claus Sluter. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2023.