Cledwyn Jones

Addysgwr, canwr ac awdur

Addysgwr, canwr ac awdur o Gymro oedd Cledwyn Jones (2 Mehefin 192318 Hydref 2022). Roedd yn fwyaf adnabyddus fel aelod o Driawd y Coleg.

Cledwyn Jones
Ganwyd2 Mehefin 1923 Edit this on Wikidata
Tal-y-sarn Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganwyd Cledwyn yn Nhal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, yn fab i chwarelwr. Wedi cyfnod gyda'r awyrlu mynychodd Goleg Prifysgol Bangor. Yno y cyfarfu â Meredydd Evans a Robin Williams gan ffurfio Driawd y Coleg - a daeth y tri yn gyfeillion oes.[1]

Wedi gadael y coleg, treuliodd dair blynedd fel athro yn ei hen ysgol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes, cyn treulio naw mlynedd yn Ysgol Friars, Bangor fel athro Addysg Grefyddol a Phennaeth yr Adran Gerddoriaeth. Ym 1961 penodwyd ef yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg y Santes Fair, Bangor i ddysgu Cymraeg a threfnu cerddoriaeth ar gyfer y gwasanaethau yn y capel. Cyn ymddeol treuliodd gyfnod byr fel darlithydd yn Adran Addysg y Brifysgol, Bangor.[2]

Yn 2003, ysgrifennodd y gyfrol Mi Wisga'i Gap Pig Gloyw am hanes J. Glyn Davies (Fflat Huw Puw) gan gynnwys llawer o’r caneuon, a’r cefndir iddynt. Yn 2009 cyhoeddodd hanes ei bentref enedigol Fy Nhalysarn I, gan ysgrifennu am atgofion ei blentyndod. Yn 2013 ymddangosodd Atgofion Awyrennwr, hanes ei gyfnod yn yr Awyrlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i Lleu, papur bro Dyffryn Nantlle.

Cyfeiriadau golygu

  1. Teyrngedau i Cledwyn Jones - un o Driawd y Coleg , BBC Cymru Fyw, 20 Hydref 2022.
  2. Llys-gennad Talysarn , DyffrynNantlle360, 20 Hydref 2022.