Grwp harmoni clos o Gymru oedd Triawd y Coleg a ffurfiwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1945 ac a oedd yn cynnwys Meredydd Evans, Cledwyn Jones a Robin Williams. Daeth y triawd yn enwog ar draws Cymru wedi iddyn nhw ymddangos yn rheolaidd ar y rhaglen radio adloniant ysgafn Cymraeg Noson Lawen yn y 1940au.

Triawd y Coleg
TarddiadBangor
Math o GerddoriaethHarmoni clos, cerddoriaeth ysgafn, Cerddoriaeth werin Cymreig
Cyfnod perfformio1945–1983
LabelDecca, Welsh Teldisc, Sain
Cyn-aelodau
Meredydd Evans
Cledwyn Jones
Robin Williams

Ystyrir bod Triawd y Coleg yn hynod ddylanwadol ar ddatblygiad cerddoriaeth boblogaidd ac adloniant ysgafn Cymraeg.[1] Maen nhw wedi cael eu disgrifio fel "y grŵp pop Cymraeg cyntaf efallai" a dilynodd sawl grŵp Cymraeg diweddarach gan efelychu eu arddull o drefniannau harmoni clos o ganeuon traddodiadol neu ddigri, gydag ymddiddan doniol rhwng y cantorion.[2] Yn 2009, rhyddhaodd Sain albwm cryno, Goreuon Triawd y Coleg.[3]

Yn 1942 daeth Meredydd Evans, a oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, i sylw Sam Jones, cynhyrchydd y BBC ym Mangor. Yn sgil hynny cafodd ef a myfyrwyr eraill o Fangor y cyfle i berfformio alawon o bob math ar y radio. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, ynghyd â Robin Williams ac Islwyn Ffowc Elis, yn cynnal nosweithiau llawen o dan yr enw ‘Parti Bangor’.

Roedd Sam Jones wedi bod yn ymwybodol o’r angen am raglenni radio adloniant ysgafn yn Gymraeg ar sail reolaidd ers canol yr 1930au. Roedd Y Cymro hefyd wedi cyhoeddi colofn olygyddol herfeiddiol i’r un perwyl yn 1945. Y flwyddyn honno clywodd Sam Jones y triawd yn rhoi perfformiad, gyda nifer o fyfyrwyr eraill, mewn noson lawen ym Mangor. Cafodd y rhaglen radio fisol Noson Lawen ei chomisiynu o ganlyniad, a darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 25 Rhagfyr 1945. Trawyd Islwyn Ffowc Elis gan waeledd cyn y perfformiad a chamodd myfyriwr arall, Cledwyn Jones, i’r adwy yn ei le. Ef fu’r trydydd aelod ar ôl hynny, ac o dan yr enw Triawd y Coleg aethant ati i gyfansoddi cerddoriaeth boblogaidd newydd sbon ar gyfer pob rhaglen, gan efelychu arddull ‘crwneriaid’ (crooners) Americanaidd poblogaidd y cyfnod.[4]

Darlledwyd pob rhifyn o'r sioe yn fisol o Fangor, gyda pherfformiadau gan y grŵp; meithrinwyd hwy gan Jones, a fyddai weithiau'n cloi Evans mewn ystafell nes ei fod wedi ysgrifennu caneuon ar gyfer rhyw dôn.[5] Daeth Noson Lawen â chaneuon doniol a sentimental Triawd y Coleg i gynulleidfaoedd ledled Cymru a’u gwneud yn enwau cyfarwydd.[6] Ar un adeg amcangyfrifwyd bod 20% o boblogaeth Cymru yn gwrando ar y rhaglen.[7] Triawd y Coleg oedd y perfformwyr cerddorol cyntaf yn y Gymraeg i ennill enwogrwydd trwy gyfrwng y radio ac maent wedi cael clod gan yr awdur Sarah Hill am "greu mewn gwirionedd ddiwylliant poblogaidd Cymreig o'r gwaelod i fyny".[1] Wrth fyfyrio ar y cyfnod yn 2010, roedd Evans yn ystyried bod caneuon ysgafn y grŵp wedi taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd oherwydd yr Ail Ryfel Byd diweddar, gan ddweud "roedd pobol eisio dipyn o hwyl. A thrwy gyfnod y rhyfel… doedd fawr o ddim hwyl Gymraeg ar y radio."[3]

Nid oedd arddull canu’r Triawd yn bodloni pawb, a thybiai rhai y byddai dull mor ‘Seisnig’ o ganu’n debyg o gael effaith drychinebus ar ddiwylliant Cymraeg. Cyhoeddwyd mwy nag un golofn feirniadol yn Y Cymro a gwynai fod arddull y Triawd yn "adlewyrchiad eiddil o grwnio fwlgar America". Yn wir, cawsant gerydd wyneb yn wyneb wrth recordio yn y BBC gan neb llai nag W. S. Gwynn Williams a Grace Williams. Fodd bynnag, roedd Noson Lawen yn rhaglen hynod o boblogaidd a llwyddiannus. Cofnododd Y Cymro hanes am dafarnwr yn Ne Cymru a anfonodd lythyr ffurfiol at y BBC i gwyno ei fod yn colli busnes yn ystod amserau darlledu’r rhaglen. Yn ôl hanesydd swyddogol y BBC yng Nghymru, John Davies, bu i fwy na hanner y Cymry Cymraeg wrando ar y rhaglen ar un achlysur, sef oddeutu 250,000. Roedd Triawd y Coleg yn hollbwysig yn y llwyddiant hwn.

Yn groes i’w rhagflaenwyr cyfansoddai’r tri eu caneuon eu hunain, a chyn iddynt ddod i’r amlwg roeddynt eisoes wedi bod yn arbrofi gyda chyflwyno cerddoriaeth boblogaidd Eingl-Americanaidd yn Gymraeg. Bathwyd y llysenw ‘y Bangor Bing’ ar gyfer Meredydd Evans, ar ôl y canwr Americanaidd poblogaidd Bing Crosby, a daeth caneuon ysgafn megis ‘Triawd y Buarth’ yn eithriadol o boblogaidd yng Nghymru. Tenau oedd y trefniadau ar y cyfan, gyda chanu harmoni clos y grŵp yn gyfeiliant â phiano yn unig.[3]

Un o ganeuon mwyaf adnabyddus y grŵp yw Triawd y Buarth, lle mae Robin yn dynwared buwch ("Mw-mw"), Cledwyn dafad ("Me-me") a Merêd hwyaden (" Cwac-cwac").[8] Mae caneuon poblogaidd eraill yn cynnwys "Pictiwrs Bach y Borth " a "Hen Feic Peni-Ffardding fy Nhaid" (Beic Hen Geiniog fy Nhad-cu).[2][9] Buont yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1947 ac yn serennu mewn ffilm fer yn seiliedig ar Noson Lawen yn 1950.[10][11][12]

Recordiodd y grŵp rai senglau ar gyfer Recordiau Decca ddiwedd y 1940au a dechrau'r 1950au, ond daeth gweithgaredd y grŵp i ben ar ôl i Evans symud i America i gofrestru ym Mhrifysgol Princeton yn 1952.[13] Ailgynullodd y grŵp ar ôl ei dychweliad yn 1960 a recordio cyfres o senglau ac EPs ar gyfer Welsh Teldisc.[14] Gwnaeth y grŵp berfformiadau achlysurol hyd at yr 1980au. Buont yn perfformio eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1971.[10] Ym 1973, rhyddhaodd Sain ddau albwm gan y grŵp - Noson Lawen, perfformiad aduniad o raglen Noson Lawen y BBC, a Triawd y Coleg, yn cynnwys recordiadau stiwdio newydd o rai o'u repertoire. Gwnaeth y grŵp berfformiad wedi'i ffilmio ym Modedern yn 1983.[15]

Cyfnod wedi perfformio

golygu

Yn ddiweddarach daeth Robin Williams yn bregethwr a darlledwr Presbyteraidd. Bu farw yn 2003, yn 80 oed.[16] Dylanwadodd Meredydd Evans "bron bob maes o fywyd diwylliannol Cymru, o gerddoriaeth werin ac athroniaeth i ddarlledu a gwleidyddiaeth iaith", yn ôl y newyddiadurwr Meic Stephens.[17] Yn hanesydd a pherfformiwr blaenllaw ym myd cerddoriaeth werin Gymreig a Phennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru rhwng 1963 a 1973 gan fod yn gyfrifol am gomisiynu rhaglenni cerddoriaeth Gymraeg holl bwysig fel Hob y Deri Dando yn 1964 ac yna rhaglen mwy gyfoes, Disc a Dawn yn 1968, bu farw yn 95 oed yn 2015.[18] Yn ddiweddarach bu Cledwyn Jones yn dysgu Addysg Grefyddol yn Ysgol Friars, Bangor.[19]

Detholiad o ganeuon

golygu
Hen Feic Peni-Ffardding fy Nhaid
Mary Jane
Pictiwrs Bach y Borth
Teganau
Triawd y Buarth

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Hill, Sarah (2017). 'Blerwytirhwng?' The Place of Welsh Pop Music. Taylor & Francis. ISBN 9781351573450. Cyrchwyd 22 Awst 2022.
  2. 2.0 2.1 Barrow, Helen; V. Clarke, Martin; Herbert, Trevor. A History of Welsh Music. Cambridge University Press. ISBN 9781009041676. Cyrchwyd 24 September 2022.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Eisiau i'r Gymraeg fod yn "feistres yn ei thir ei hun"". Golwg360. Cyrchwyd 23 September 2022.
  4.  Triawd y Coleg. Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2018).
  5. Price, Gareth. The Broadcasters of BBC Wales, 1964-1990. Y Lolfa. ISBN 9781784615352. Cyrchwyd 24 September 2022.
  6. Herbert, Trevor; Stead, Peter (2001). Hymns and Arias: Great Welsh Voices. University of Wales Press. ISBN 9780708316993. Cyrchwyd 24 September 2022.
  7. Jones, R. Arwel. "EVANS, MEREDYDD ('MERÊD') (1919 - 2015), campaigner, musician, philosopher and television producer". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 25 August 2022.
  8. Arwel Jones, Rocet (3 Mawrth 2016). Merêd - Dyn Ar Dân. Y Lolfa. ISBN 9781784613440. Cyrchwyd 24 Medi 2022.
  9. Arwyn (3 October 2012). "Y Gorfforaeth Ddarlledi Brydeinig (B.B.C.)". Llais y Pentref Awst 2012. http://llanpumsaint.org.uk/files/Village-Voice-Newsletter-August-2012.pdf. Adalwyd 24 September 2022.
  10. 10.0 10.1 "Welsh Music Archive". Twitter. Cyrchwyd 23 September 2022.
  11. "Meredydd Evans, Welsh language campaigner - obituary". The Telegraph. 26 Chwefror 2015. https://www.telegraph.co.uk/news/obituaries/11437540/Meredydd-Evans-Welsh-language-campaigner-obituary.html. Adalwyd 25 Awst 2022.
  12. "Noson Lawn". bfi. Cyrchwyd 21 August 2022.
  13. "Hen feic Peni-Ffardding fy Nhaid". The Internet Archive. Cyrchwyd 24 September 2022.
  14. "Triawd y Coleg". Discogs. Cyrchwyd 24 September 2022.
  15. Jones, Huw (23 October 2020). Dwi Isio Bod Yn... Y Lolfa. ISBN 9781784619992. Cyrchwyd 24 September 2022.
  16. "Death of Robin Williams". BBC News. Cyrchwyd 24 September 2022.
  17. Stephens, Meic (13 July 2018). More Welsh Lives. Y Lolfa. ISBN 9781784616359. Cyrchwyd 22 August 2022.
  18. Rees, D Ben (15 March 2015). "Meredydd Evans obituary". The Guardian. https://www.theguardian.com/uk-news/2015/mar/15/meredydd-evans-obituary. Adalwyd 24 August 2022.
  19. "The Old Dominican's Association Newsletter" (PDF). Cyrchwyd 24 September 2022.

Dolenni allanol

golygu