Clera (Cymdeithas)
cymdeithas offerynnau traddodiadol Cymru
Enw llawn Clera ydy 'Cymdeithas offerynnol traddodiadol Cymru'. Mae'r gymdeithas yn sefydlu clybiau alawon ac yn trefnu gweithdai offerynnol, gan gynnwys sesiynau yn Nhŷ Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ffurfiwyd Y Glerorfa ar gyfer dathliad 10fed penblwydd y gymdeithas yn 2006[1] ac yn 2015 roedd y Glerorfa'n dal i ffynnu.