gweler Cyfnod clo COVID-19 am ragor o wybodaeth adeg Coronafiws 2020

Clofa
MathRheoliad, cadw pellter, Cwarantin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Protocol a ddefnyddir mewn carchar, fel arfer, yw clofa neu gyfnod clo, lle y caiff pobl, gwybodaeth neu gargo eu hatal rhag gadael ardal. Fel rheol dim ond rhywun sydd mewn swydd o awdurdod all gychwyn y protocol. Gellir defnyddio clofa hefyd i amddiffyn pobl y tu mewn i gyfleuster neu, er enghraifft, system gyfrifiadurol, rhag bygythiad neu ddigwyddiad allanol arall.

Enghraifft diweddar o glofa yw honno yn Rhagfyr 2005 pan gyhoeddodd Heddlu De Cymru Newydd, Awstralia glofa yn Sutherland Shire, ger Bae Botany, oherwydd reiat enfawr. Cyhoeddwyd clofa yn syth wedi Ymosodiadau 11 Medi 2001, ond y tro hwn clofa o'r awyr uwch ben Unol Daleithiau America, er mwyn atal hedfan awyrennau.

Nid annhebyg yw hyn i'r system a roddwyd yn ei lle yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, gyda chloch y cyrffyw, neu'r 'hwrgloch' [1] sef yr arwydd i bob Cymro fynd i'w tai. Cosbwyd y rhai hynny nad oedd wedi medru gwneud hynny.

COVID-19 yng Nghymru golygu

Yn ystod pandemig y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru, defnyddiwyd y term Cyfnod clo am weithredoedd yn ymwneud â chwarantîn torfol.[2] Erbyn dechrau mis Ebrill 2020, roedd 3.9 biliwn o bobl ledled y byd o dan ryw fath o glofa - mwy na hanner poblogaeth y byd.[3][4] Erbyn diwedd mis Ebrill, roedd tua 300 miliwn o bobl yng nghenhedloedd Ewrop, tra bod tua 200 miliwn o bobl mewn clofa yn America Ladin. Roedd bron i 300 miliwn o bobl, neu tua 90 y cant o'r boblogaeth, o dan ryw fath o glofa yn yr Unol Daleithiau, ac 1.3 biliwn o bobl yn India.

Ym Mawrth 2020 cyhoeddwyd clofa yng Nghymru, gyda'r slogan 'Arhoswch adref' yn cael ei ddefnyddio'n helaeth. Parhaoedd Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda'r slogan hwn, ond ar 10 Ebrill cyhoeddodd Boris Johnson y bydd Lloegr yn llacio'r clofa, yn defnyddio slogan wahanol (Stay Alert) ac yn rhoi'r hawl i'w dinasyddion deithio mor bell ag y dymunent.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi; adalwyd 15 Mai 2019.
  2. Resnick, Brian (10 March 2020). "Italy and China used lockdowns to slow the coronavirus. Could we?". VOX. Cyrchwyd 25 Mawrth 2020.
  3. "Coronavirus: Half of humanity now on lockdown as 90 countries call for confinement". Euronews. 3 Ebrill 2020.
  4. "A third of the global population is on coronavirus lockdown—here's our constantly updated list of countries and restrictions". Business Insider. 28 Mawrth 2020.