Addurn i'w wisgo yn y glust ydy clustdlws. Hyd at yr 20g arferid ei wneud wneud allan o fetel a oedd yn hongian ar waelod y glust (y clustenni). Merched neu forwyr oedd fel arfer yn eu gwisgo, ond mae'r ddau ryw yn gwneud hynny erbyn heddiw, ar y naill glust neu'r llall.

Clustdlws
Mathgem, addurn a wisgir wrth glust Edit this on Wikidata
Deunyddglain Edit this on Wikidata
Lleoliadclust Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae lleoliad y clustdlws yn amrywio. Gall dyllu rhan uchaf y glust, fel arfer, gymryd mwy o amser i wella.[1]

Erbyn heddiw cant eu gwneud o fetal, gwydr, glain, plastig a hyd yn oed platiau enfawr.

Does dim cofnod fod y Celtiaid na'r Llychlynwyr yn gwisgo clustdlysau. Yn Persepolis, Persia mae na luniau ar waliau o filwyr yr Ymerodraeth yn eu gwisgo.

Mae'r Beibl hefyd yn eu crybwyll sawl tro e.e. sonir am gaethwas nad oedd yn dymuno rhyddid oddi wrth ei feistr ac y byddai ei feistr yn rhoi clustdlws drwy ei glust er mwyn dangos fod y caethwas yn eiddo iddo fo am byth (Exodus 21:6).

Dywed yr archaeolegydd Howard Carter fod clustiau Tutankhamun yn dangos ôl tyllu, ond ni chafwyd hyd i glustdlysau yn y gist; roedd rhai mewn rhan arall o'r bedd, fodd bynnag. Roedd tyllau hefyd yn masg-wyneb Tutankhamun, ond roeddynt wedi eu cau gyda disgen aur ym mhob un. Efallai fod hyn yn arwydd mai plant yn unig oedd yn eu gwisgo.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Davis, Jeanie. "Piercing? Stick to Earlobe". WebMD. WebMD. Cyrchwyd 5 Ionawr 2014.
  2. The Tomb of Tut-Ankh-Amen: Discovered by the Late Earl of Carnarvon and Howard Carter, cyf. 3, tt.74–5