Clwb Rygbi Cymry Caerdydd
Clwb Rygbi Cymry Caerdydd neu CRCC sef Clwb Rygbi sydd wedi ei leoli yn y brif ddinas. Cafodd ei sefydlu'n 1967[1] ac yn bellach gyda thimoedd Ieuenctid, Merched a thimoedd Dynion 1XV, XV2 a XV3 a 'Hen Lawiau' yn achlysurol. Mae'r tîm gyntaf yn chwarae yng Nghynghrair 3 Canol, Dwyrain gyda'r Ail dîm yn cystadlu'n Cynghrair 1 'Cardiff & District'. Cartref y Clwb yw Caeau Pontcanna gyda'r Clwb Rygbi wedi lleoli'n Clwb Cameo ar hyn o bryd.
Yn nhymor 2016-17 dathlodd y Clwb Rygbi 50 mlwyddiant o fodolaeth gyda llu o ddigwyddiad gan gynnwys taith i Lydaw. Yn 2014 enillodd y Clwb Rygbi'r Fowlen Genedlaethol yn Stadiwm Mileniwm yn erbyn Llanilltud Fawr fel rhan o ddiwrnod rowndiau terfynol SWALEC.[2]
Yn ôl traddodiad mae'r Clwb yn cystadlu yn erbyn Pentyrch RFC ar gyfer y Cwpan y Mochyn Du, sydd wedi'i enwi ar ôl hen dafarn enwog y ddinas.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn dathlu 50 mlwyddiant". BBC Cymru Fyw. 2017-04-29. Cyrchwyd 2017-12-14.
- ↑ Bywater, Alex (2014-05-04). "Swalec Finals Day: Clwb Rygbi Cymry Caerdydd are Bowl champions after beating Llantwit Major". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-12-14.