Stadiwm y Mileniwm
Lleolir Stadiwm y Mileniwm neu Stadiwm Principality (Saesneg: Principality Stadium) yng Nghaerdydd, ar lan Afon Taf. Mae'r enw yn adlewyrchu cytundeb nawdd gyda Cymdeithas Adeiladu'r Principality rhwng 2016 a 2026. Dyma stadiwm cenedlaethol Cymru, ac Undeb Rygbi Cymru yw ei berchennog. Dyma'r ail stadiwm fwyaf yn byd gyda tho y gellir ei dynnu yn ôl yn gyfan gwbwl; mae ganddo le ar gyfer 75,154 o bobl.[1] Fe'i adeiladwyd yn 1999, ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, a gynhaliwyd yng Nghymru y flwyddyn honno. Fe gostiodd £126 miliwn i Undeb Rygbi Cymru ac fe'i hariannwyd gan fuddsoddiad preifat, arian y Loteri a benthyciadau. Fe'i defnyddiwyd am y tro cyntaf ar 26 Mehefin 1999 pan chwaraeodd Cymru yn erbyn De Affrica.
Math | stadiwm rygbi'r undeb, stadiwm pêl-droed, safle rygbi'r undeb |
---|---|
Enwyd ar ôl | 3edd mileniwm, Cymdeithas Adeiladu'r Principality |
Agoriad swyddogol | 26 Mehefin 1999 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 40,200 m² |
Cyfesurynnau | 51.4781°N 3.1825°W |
Hyd | 222 metr |
Rheolir gan | Undeb Rygbi Cymru |
Perchnogaeth | Undeb Rygbi Cymru |
Cost | 181,000,000 punt sterling |
Pan agorodd y stadiwm yn swyddogol ym mis Mehefin 1999, hwn oedd dim ond yr ail stadiwm yn Ewrop â tho gwbwl codadwy, ar ôl Arena Amsterdam. Fe'i hadeiladwyd ar safle yr hen Stadiwm Cenedlaethol ym Mharc yr Arfau; hwn oedd y pedwerydd tro i'r safle hwnnw gael ei ailddatblygu.[2]
Cynhaliwyd gemau terfynol Cwpan yr FA yma rhwng 2001 a 2006,[1] tra'r oedd Stadiwm Wembley yn Llundain yn cael ei ail-adeiladu.[3] Cynhaliwyd hefyd gemau pêl-droed yng Ngemau Olympaidd 2012[4] a gemau yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015.[1] Dyma fydd safle gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017.[5] Mae nifer o gerddorion wedi perfformio mewn cyngherddau yma, gan gynnwys Madonna, Take That, The Rolling Stones a Paul McCartney.[6] Yn 2004, cynhaliwyd Cyngerdd Cymorth Tsunami yn y stadiwm.
Oriel
golygu-
Goleuadau cynesu a goleuo ar y gwair, 2010
-
Ystafell newid, 2010
-
Rhan o'r stadiwm, 2010
-
Y seddi
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Stadiwm y Mileniwm
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Millennium Stadium. Rugby World Cup. Adalwyd ar 7 Medi 2015.
- ↑ (Saesneg) About the Venue. Stadiwm y Mileniwm. Adalwyd ar 7 Medi 2015.
- ↑ (Saesneg) The History of Wembley Stadium. Stadiwm Wembley (25 Ebrill 2013). Adalwyd ar 7 Medi 2015.
- ↑ (Saesneg) Dulin, David (25 Gorffennaf 2012). London 2012: Eyes on Millennium Stadium as Olympics open. BBC News. Adalwyd ar 7 Medi 2015.
- ↑ (Saesneg) Peach, Simon (30 Mehefin 2015). Millennium Stadium in Cardiff confirmed as host for the 2017 Champions League final. Daily Mail. Adalwyd ar 7 Medi 2015.
- ↑ (Saesneg) Millennium Stadium. WalesOnline. Adalwyd ar 7 Medi 2015.