Agor y brif ddewislen
Cneuen goco wedi'i thorri yn hanner.

Mae'r goeden cnau coco (Cocos nucifera) yn aelod o deulu'r balmwydden (Arecaceae) a'r unig rywogaeth fyw o'r genws Cocos.[1] Gall y term "cneuen goco" gyfeirio at y balmwydden gnau coco, yr hedyn, neu'r ffrwyth, sydd yn fotanegol yn aeronen, nid cneuen. Mae'r term yn deillio o'r gair 'coco' ym Mhortiwgaleg a Sbaeneg yr 16g, a oedd yn golygu "pen" neu "benglog". Roedd yn cael ei ddefnyddio fel enw am fod tri phant ar gragen y gneuen goco yn debyg i nodweddion wyneb.[2]

Mae cnau coco yn gallu cael eu defnyddio at nifer o bwrpasau, yn amrywio o fwyd i gosmetigau.[3] Mae'r cig sydd yn yr hedyn aeddfed yn rhan gyson o ddeiet nifer o bobl yn y trofannau a'r isdrofannau. Mae cnau coco yn wahanol i ffrwythau eraill am fod eu endosberm yn cynnwys llawer o hylif clir,[3] sy'n cael ei alw'n "llaeth",[4] a phan yn anaeddfed, gellir ei gynaeafu a'i gadw fel "dwr" neu "sudd".

Gall cnau coco aeddfed gael eu defnyddio fel hadau bwytadwy, neu eu prosesu i gael olew neu laeth planhigyn o'r cig, golosg o'r gragen galed, a rhisgl o'r plisgyn edafeddog. Mae cig cnau coco sych yn cael ei alw'n copra, ac mae'r olew a'r llaeth yn aml yn cael eu defnyddio wrth goginio – ffrio yn arbennig – yn ogystal â mewn sebonau a cosmetigau. Gellir defnyddio'r cregyn caled, y plisgyn edafeddog a'r dail hirion fel deunydd ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchion addurniedig a dodrefn. Mae gan y gneuen goco arwyddocad diwylliannol a chrefyddol mewn rhai cymdeithasau, yn arbennig yn India, lle mae'n cael ei ddefnyddio mewn defodau Hindŵaidd.[5]

CyfeiriadauGolygu