Ffrio
Coginio bwyd mewn braster neu olew poeth yw ffrio.[1][2] Y ddwy brif dechneg yw ffrio mewn padell fas dros dân, a ffrio mewn llestr dwfn gan drochi'r bwyd yn llwyr mewn olew poeth. Gan y defnyddir saim i wresogi'r bwyd, mae rhai yn ei hystyried yn dechneg o goginio sy'n defnyddio gwres sych.[3]
Caiff cigoedd brasterog megis bacwn a chig eidion mâl eu ffrio gan amlaf mewn eu toddion. Yn aml dodir cig gyda llai o fraster, pysgod, a llysiau mewn blawd neu gytew cyn eu ffrio. Yn ogystal â'r brasterau traddodiadol – toddion cig eidion, menyn a bloneg – defnyddir hefyd olewon corn, cnau a hadau i ffrio.[3]
Dulliau
golyguFfrio bas
golyguFfrio gydag ychydig o fraster mewn padell neu lestr bas yw ffrio bas.[4]
Ffrio dwfn
golyguFfrio drwy drochi'r bwyd yn llwyr mewn olew yw ffrio dwfn.[5]
Ffrio sych
golyguCoginio bwydydd brasterog mewn padell nad yw'n glynu ac heb ragor o fraster yw ffrio sych.[6]
Tro-ffrio
golyguFfrio darnau bychain o fwyd yn gyflym mewn ychydig o fraster ar wres uchel, a'u troi'n gyson, yw tro-ffrio.[7] Gwneir yn aml mewn woc.[8]
Ffrio'n ysgafn
golyguCoginio mewn ychydig o fraster ar wres uchel, gan ysgwyd y badell yn gyson, yw ffrio'n ysgafn.[9] Caiff y cig neu lysiau eu brownio mewn ychydig o fenyn, saim llysiau, neu olew.[3] Ceir padell arbennig gydag ochrau syth a gwaelod llydan ar gyfer ffrio'n ysgafn.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 102.
- ↑ ffrio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) frying. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
- ↑ Geiriadur yr Academi, [frying: shallow frying].
- ↑ Geiriadur yr Academi, [frying: deep fat frying].
- ↑ Geiriadur yr Academi, [frying: dry frying].
- ↑ Geiriadur yr Academi, [stir: stir-fry].
- ↑ Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 449.
- ↑ Geiriadur yr Academi, [sauté].
- ↑ Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 450.