Cobh
Porthladd sy'n faesdref i ddinas Corc, Iwerddon, yw Cobh (Gwyddeleg: An Cóbh).[1] Cafodd yr enw Queenstown neu Cove of Cork tan 1922.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 12,347 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Corc |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 8.95 km² |
Uwch y môr | 47 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 51.851°N 8.2967°W |
Mae Harbwr Corc yn un o'r harbwrau naturiol mwyaf yn y byd. Y porth oedd y stop olaf am y mwyafrif o'r llongau yn croesi'r Cefnfor Iwerydd i Unol Daleithiau America.
Ym mis Rhagfyr 1892, gadawodd Annie Moore (1 Ionawr 1877 - 1923) a'i brodyr Phillip ac Anthony, harbwr Cobh ar y llong Nevada i symud i'r Unol Daleithiau America. Ar 1 Ionawr, 1892, Annie Moore oedd y mewnfudwr cyntaf i fynd heibio'r ganolfan mewnfudo newydd ar Ynys Ellis yn Efrog Newydd. Mae cerflun y tri phlentyn i'w cael ar y cei yn Cobh ac yn Ynys Ellis hefyd.
Hwyliodd y leinar Titanic o harbwr Cobh ar 11 Ebrill, 1912 ar ei mordaith gyntaf o Southampton, Lloegr, i Efrog Newydd. Suddwyd y llong ar 14 Ebrill, 1912 ar ôl taro rhewfynydd yn yr Iwerydd a boddwyd myw na 1,500 o bobl.
Ar 7 Mai 1915 suddwyd y leinar Lusitania, yn hwylio o Efrog Newydd i Lerpwl, gan long-danfor Almaenig oddi ar benrhyn Kinsale, Swydd Corc. Bu farw 1,198 o bobl. Cludwyd y goroeswyr a'r meirw i dre Cobh a chladdwyd mwy na 100 o'r meirw ym mynwent yr Hen Eglwys. Mae cofadail i'r Lusitania ym Maes Casement yn y dre.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022