John Jones (Coch Bach y Bala)
Lleidr a photsiwr oedd John Jones (1854 - 1913), mwy adnabyddus fel Coch Bach Y Bala. Gelwid ef hefyd The Little Welsh Terror a The Little Turpin. Roedd yn adnabyddus oherwydd ei ddawn i ddianc o garchardai, a daeth yn fath o arwr gwerin.
John Jones | |
---|---|
Ffugenw | Coch Bach y Bala |
Ganwyd | 1854 Sir Ddinbych |
Bu farw | 1913 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Cysylltir gyda | Carchar Rhuthun |
Yn 1913, dihangodd o garchar Rhuthun, ond yn fuan wedyn cafodd ei saethu gan dirfeddiannwr (sgweiar Euarth) ger Llanfair Dyffryn Clwyd, a gwaedodd i farwolaeth. Cafwyd ymateb cyhoeddus ffyrnig i hyn gan Gymry lleol. Bu farw o'i glwyfau a chladdwyd ef yn Llanelidan.
Comisiynwyd cân o'r enw Coch Bach y Bala ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014. Ysgrifennwyd geiriau'r gân gan Mair Tomos Ifans a'r gerddoriaeth gan Sioned Webb a'i perfformiwyd yn y gystadleuaeth i gorau blwyddyn 7, 8 a 9.[1] Ysgol Uwchradd Brynrefail cipiodd y wobr cyntaf.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Coch Bach y Bala". Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Cyrchwyd 30 Mai 2014.
- ↑ "Canlyniadau Cystadleuthau Llwyfan Dydd Iau, 29 Mai 2014". Urdd Gobaith Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 30 Mai 2014.