Llanelidan
Pentref, cymuned a phlwyf yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanelidan( ynganiad ). Mae'r pentref tua hanner ffordd rhwng trefi Rhuthun a Chorwen, yn nyffryn Afon y Maes, sy’n isafon i Afon Clwyd. Mae pentrefan Rhydymeudwy o fewn y gymuned hon.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 305, 362 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,150.62 ha |
Cyfesurynnau | 53.0333°N 3.3333°W |
Cod SYG | W04000162 |
Cod OS | SJ106504 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Mae'r eglwys yno wedi ei chysegru i Sant Elidan, a dyma darddiad enw'r pentref. Adeiladwyd yr eglwys yn y 15g; mae'n parhau i gadw nifer o'i nodweddion gwreiddiol o'r Oesoedd Canol, er gwaethaf gwaith adnewyddu sylweddol yn y 19g.
Rhwng Bryneglwys a Chorwen, ceir swp o gerrig hynafol a elwir yn 'Fwrdd y Tri Arglwydd'. Yn ôl traddodiad, mae'r cerrig hyn yn nodi'r ffin ganoloesol rhwng Arglwyddiaeth Dinbych, ym meddiant Reginald de Grey, a chwmwd Cynllaith Owain, ym meddiant Owain Glyndŵr. Ceir plac ar y cerrig sy'n cofnodi'r hanes. Ychydig lathenni o'r garreg ceir cerrig eraill - olion hen siambr gladdu neolithig.[1] Yn ddiweddarach, yma oedd y ffin rhwng yr hen Sir Ddinbych a Meirionnydd, gyda phlwyfi Llanelidan, Bryneglwys, Gwyddelwern a Llansanffraid Glyn Dyfrdwy yn cwrdd yma, fel oedd arglwyddiaethi Rhuthun, Glyndyfrdwy ac Iâl.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan David Jones (Ceidwadwr).[3][4]
-
Bwrdd y Tri Arglwydd
-
Llanelidan
Eglwys Sant Elidan
golyguSaif yr eglwys wrth dafarn y Leyland Arms, wedi ei hamgylchynu gan goed yw a hen gerrig beddi Cymraeg. Cysegrwyd yr eglwys i sant lleol na wyddom llawer amdano. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol yn y 15g ac mae’n cynnwys dwy ran, yn unol ag arddull yr ardal, ac mae ynddo nifer o nodweddion canoloesol, er yr adnewyddu sylweddol a fu yn ystod cyfnod Fictoria.
Mae’r eglwys wedi ei chysegru i sant lleol na wyddys llawer amdano. Wedi ei hadeiladu'n wreiddiol yn y 15g, mae’n cynnwys dwy brif ran, yn unol ag arddull yr ardal. Ceir pâr o ganopïau anrhydedd crymdo dros yr allor, darnau o wydr canoloesol, sef symbolau’r croesholiad mewn tariannau glas uwchben yr allor, ac yn bwysicach oll, gwaith coed cerfiedig rhyfeddol. Mae rhannau o’r groglen ganoloesol wedi eu gosod wrth y pulpud, yn eu plith fwystfilod ar ffurf ceffylau, tariannau crynion cain, a gwinwydd ac aeron eiddew. Mae gan y pulpud Jacobeaidd ei gerfiedau ei hun, gyda mwy o baneli sy’n dyddio o’r un cyfnod y tu ôl i’r allor. Mae’r hen gorau bocs (gorlan y seddi), sy’n gofebau i ysgweiriaid Plas Nantclwyd gerllaw, a’r portread teimladwy o’r merthyr Pabyddol lleol, Edward Jones, yn gwneud yr eglwys hon yn unigryw. Mae ar agor yn ystod golau dydd fel arfer.
Roedd Richard Parry yn rheithor Llanelidan am gyfnod cyn iddo ddod yn Esgob Llanelwy.[5]. O 1891 hyd ei farwolaeth yn 1937, bu John Morris o Glarach yn rheithor ar y plwyf ag ef a gladdodd Coch Bach y Bala.[6]
-
Y fynedfa, o'r eglwys
-
Draig dau ben ar y groglen ganoloesol
-
Y seddi, gydag enw rhai o deuluoedd yr ardal arnynt
-
Yr allor
-
Arfbais ar y mur
-
Gwaith cerfiedig ar bren y pulpud
-
Y fedyddfaen
Stad Nantclwyd
golyguMae llawer o dir amaethyddol, coedwigoedd a thai Llanelidan, yn ogystal a'r unig dafarn, y Leyland Arms, yn rhan o stad Nantclwyd ac yn perthyn i'r teulu Naylor-Leyland. Saif Plas Nantclwyd wrth ochr Afon Clwyd i'r gogledd o'r pentref.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]
Llanelidan, y gân
golyguCanwyd cân o'r enw Llanelidan gan y triawd, Trisgell, gyda cherddoriaeth gan Robat Arwyn. Mae'r gân am Syr Vivian Naylor-Leyland yn llosgi tai'r Cymry a oedd ar ei stad, Plas Nantclwyd. Mae'r gân ar yr albwm Caneuon Robat Arwyn.[10] Mae'r gân yn dechrau gyda'r gytgan a'r geiriau yn dechrau ar nodyn cyntaf y cyfeiliant.
- Cygtan
- O'r cof aeth pentref cyfan
- Oherwydd gŵr yr arian
- Fe ddaeth a'i wên a'i gyllell ddu
- I waedu Llanelidan
- Efallai nad oedd yn afallon o dir
- Ond unwaith tyddynod fu'n gwarchod y gwir:
- Tyddyn ar dyddyn yn credu mewn Duw
- A chwlwm cymdeithas yr un bwrlwm byw.
- Cytgan
- Ond Ffasgydd ddaeth yma i losgi pob tŷ
- Ryw unben o Hitler 'da'i hen gyllell ddu,
- Fe laddodd popeth oedd amherffaith i'w drefn
- A bwrlwm cymdeithas a dorrodd ei chefn.
- Cytgan
- A'r gŵr nad oedd Gymro a waedodd y tir
- Ond cododd rhai Cymru eu lleisiau yn glir
- Fe chwynwyd y rheini a'u tai rhoed ar dân
- Eu hangerdd a'u tristwch a luniodd y gân
- Cytgan
- “Pa pryd y bu hyn?”, meddai rhywun o draw
- “Pa pryd y bu bywyd yn storom o fraw?”
- “Digwyddodd yr erlid”, atebaf i ti
- “Digwyddodd y gorthrwm yn fy nyddiau i”
Cyfeiriadau
golyguO 28 April 2011 ymlaen, ffynhonnell yr erthygl hon (neu ran ohoni) yw medieval-wales.com/index.php. Trwyddedodd deiliad yr hawlfraint y cynnwys ar drwydded CC-By-SA / GFDL. Mae'n rhaid dilyn termau perthnasol y drwydded.
- ↑ Gwefan Coflein; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Ebrill 2014
- ↑ Frank Price Jones (1969). Crwydro - Gorllewin Dinbych. t. 49. Unknown parameter
|publihsher=
ignored (|publisher=
suggested) (help) - ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Frank Price Jones (1969). Crwydro - Gorllewin Dinbych. Unknown parameter
|publihsher=
ignored (|publisher=
suggested) (help) - ↑ Frank Price Jones (1969). Crwydro - Gorllewin Dinbych. t. 51. Unknown parameter
|publihsher=
ignored (|publisher=
suggested) (help) - ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ "Caneuon Robat Arwyn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-10. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2014. Unknown parameter
|puiblisher=
ignored (|publisher=
suggested) (help)
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion